Digwyddiadau
Sgiliau i reoli fy emosiynau – gweithdy ar-lein
Dyddiad: Dydd Llun 31 Mawrth
Amser: 2yp i 4:30yp
Llwyfan: Zoom
Cyfle i ddysgu sgiliau newydd a allai helpu i reoli eich emosiynau mewn ffordd iachach.
Mae’r sgiliau hyn yn deillio o fath o therapïau a elwir yn ACT – Therapi Derbyn ac Ymrwymiad a DBT – Therapi Ymddygiad Dialectig.
Bydd y gweithdy’n cynnwys cyflwyniadau, clipiau fideo, trafodaethau cyffredinol mewn grwpiau a chyfle i fyfyrio a gofyn cwestiynau.
Bydd y gweithdy’n cael ei hwyluso gan 1 Cynghorydd ac 1 Cynghorydd dan hyfforddiant.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, cysylltwch â ni ar: wellbeingservices@bangor.ac.uk
Nodwch pa weithdy yr hoffech ei fynychu a rhowch eich enw a’ch rhif ID Myfyrwyr i ni.
Mae lleoedd yn gyfyngedig.
Caffi Codi Calon – i Fyfyrwyr Rhyngwladol
Chwilio am le diogel i gysylltu, i lonyddu, neu i siarad am eich profiadau? Mae Caffi Codi Calon yn ofod pwrpasol sy’n cynnig cymorth, cyngor ac adnoddau wedi’u teilwra ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.
Mae’r prosiect, sy’n cael ei redeg gan dîm cyfeillgar Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr, yn darparu amgylchedd cyfrinachol a chroesawgar i drafod eich iechyd emosiynol a lles.
P’un a ydych chi’n addasu i fywyd mewn gwlad newydd neu ddim ond eisiau rhannu’r hyn sydd ar eich meddwl, bydd croeso cynnes i chi.
Pryd? Bob prynhawn dydd Mawrth, 3pm–4pm.
Ble? Ystafell Gyfarfod 4, Neuadd Rathbone.
Nid oes angen apwyntiad – galwch heibio. Darperir lluniaeth ysgafn.
Gweithdy Hunanofal – LLAWN
Cyflwynir gan y Gwasanaeth Lles
Cyfle i ddysgu beth yw hunanofal a sut y gall gefnogi eich lles meddyliol.
Cyfle i archwilio eich gweithgareddau hunanofal presennol a nodi meysydd y gallech eu datblygu.
Dysgu sut mae eraill yn ymarfer hunanofal.
Dod i ddeall sut mae hunan tosturi yn rhan hanfodol o hunanofal.
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei hwyluso’n ddwyieithog gan y cwnselydd Llinos Morris.
Bydd y gweithdy yn cynnwys trafodaethau grŵp.
Mawrth 5ed 2025: 2.00yp-4.00yh
Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, cysylltwch â ni ar: gwasanaethaulles@bangor.ac.uk.
Nodwch pa weithdy yr hoffech fynychu a rhowch eich enw a rhif adnabod myfyriwr yn yr ebost.
Mae lleoedd yn gyfyngedig.
Edrych ar ôl dy Ffrind – LLAWN
Awgrymiadau ymarferol ar sut i gefnogi ffrind, suit i ddechrau sgwrs a chyfeirio, tra’n gofalu am eich lles eich hun.
19 Chwefror 2025, 2.00yp-4.00yh
Ystafell 325, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg
Ar gyfer ymholidau pellach, neu i archebu lle, cysylltwch â: gwasanaethaulles@bangor.ac.uk.