Trefniadau Arholiadau Mai 2025
Gweler 聽am fwy o fanylion, a dyddiadau / amseroedd eich arholiadau.
Bydd amserlen yr arholiadau’n nodi a yw eich arholiad ar-lein (h.y. ei ryddhau ar Blackboard) neu yn y cnawd ar y campws. Gweler y camau y bydd angen i chi eu cymryd isod gan ddibynnu pa fath o arholiad a restrir.
Arholiad yn y Cnawd ar y Campws
Bydd yr amserlen arholiadau yn dangos dyddiad ac amser dechrau yr arholiadau.
- Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd addasiadau i’ch arholiadau yn unol 芒’ch Cynllun Cefnogi Dysgu Personol wedi cael eu rhoi ar waith yn awtomatig.
- Ddydd Gwener 02/05/2025, bydd amseroedd gorffen a lleoliadau eich arholiadau unigol yn cael eu hychwanegu at eich calendrau ar FyMangor.
- Pan fo angen gwneud unrhyw addasiadau cymhleth i arholiadau (e.e. Gweithiwr Cefnogi / Braille) byddwn yn cysylltu 芒 chi’n unigol i wneud y trefniadau terfynol. Cadwch lygad am e-bost gan y Gwasanaethau Anabledd.
- Ni fydd trefniadau slip melyn yn newid 鈥 gweler Ystyriaethau Marcio (Slip Melyn) isod.
- Myfyrwyr y Gwyddorau Iechyd: cysylltwch 芒'r Ysgol am addasiadau i arholiadau.
Ar 么l dydd Gwener 02/05/2025, os ydych yn ansicr ynghylch trefniadau eich arholiadau, cysylltwch 芒’r Gwasanaethau Anabledd cyn gynted 芒 phosibl ar gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu 01248 382032.
Os hoffech drafod eich trefniadau gydag aelod o staff yn y Swyddfa Arholiadau, e-bostiwch arholiadau@bangor.ac.uk.
Arholiad Ar-lein
Cafodd fformat yr arholiad ei gynllunio i fod yn gynhwysol, ac felly does dim angen addasiadau unigol (e.e. amser ychwanegol, defnyddio cyfrifiadur, ystafell gymorth arholiadau ac yn y blaen) mwyach. Os ydych chi fel arfer yn cael amser ychwanegol a / neu seibiannau i orffwys, cymerwch y rheiny yn ystod y cyfnod 鈥榓gored鈥 yn 么l yr angen.
Os ydych chi'n teimlo nad yw fformat newydd yr asesiadau'n addas i chi, cysylltwch 芒'r鈥Gwasanaethau Anabledd鈥痠 drafod hynny cyn gynted 芒 phosibl.
Arferion da at y fformat asesu yma:
- Paratowch fel y byddech chi ar gyfer arholiad arferol.
- Os oes gennych broblemau gyda Thechnoleg Gwybodaeth / cysylltedd, cysylltwch 芒 Desg Gymorth y Gwasanaethau TG; gallant helpu datrys problemau o bell (e-bostiwch nhw o'ch cyfeiriad e-bost Prifysgol os yn bosibl, a rhowch rif ff么n cyswllt).
- Os na ellir datrys y problemau TG, cewch ofyn am Sefyll am y Tro Cyntaf Cyntaf neu Drefniadau Amgen - gweler isod.
- Penderfynwch faint o'r gloch y byddwch chi'n stopio am y diwrnod, er mwyn sicrhau eich bod chi'n gorffwys yn ddigonol.
- Peidiwch ag aros tan y funud olaf i gyflwyno'r gwaith, rhag ofn y bydd anawsterau technegol / cysylltedd ar y diwrnod. Ystyriwch gyflwyno gyda'r nos (er mai 8.59am yw'r amser terfynol), oherwydd byddai hynny'n fodd i chi orffwys yn well dros nos.
Beth os na allaf sefyll yr arholiad ar yr adeg y caiff ei ryddhau?
Gallai fod nifer o resymau, gan gynnwys cysylltedd y rhyngrwyd / problemau technegol, salwch a hunan-ynysu. Os na allwch gwblhau'r arholiad yr adeg y caiff ei ryddhau, defnyddiwch y i ofyn ynghylch Sefyll am y Tro Cyntaf neu Drefniadau Amgen'. Os na allwch gael mynediad i'r Ganolfan Geisiadau, ffoniwch 01248 388400 ar dyddiau'r wythnos 10-12 a 2-4 ac mi wnaiff y staff eich helpu.
Ystyriaethau marcio (Slip Melyn)
Mae myfyrwyr Prifysgol 吃瓜群众 gyda Gwahaniaeth Dysgu Penodol, sydd wedi eu cofrestru gyda'r Gwasanaethau Anabledd ac sydd 芒 Chynllun Cefnogi Dysgu Personol wedi ei sefydlu, yn cael cynnig addasiadau rhesymol slip melyn. Mae’r slip melyn yn golygu y bydd gwaith cwrs ac arholiadau yn cael eu marcio yn 么l cynnwys a syniadau, ac ni fydd marciau’n cael eu tynnu am sillafu a strwythur, oni bai bod y rhain yn rhan o’r meini prawf marcio/ deilliannau dysgu.
Arholiadau Ar-Lein
Cofiwch gop茂o a gludo slip melyn i mewn i bob sgript arholiad cyn eu cyflwyno (mae'ch slip melyn chi yn eich : os ydych chi'n ansicr sut i wneud hyn, gweler i gael arweiniad pellach).
I fynd at y slip melyn electronig:
- Ewch i’ch tudalen .
- De-gliciwch ar y ddelwedd o slip melyn.
- De-gliciwch ar y ddelwedd cop茂o.
- 鈦燝ludwch y ddelwedd i ddogfen Word.
- Fel arall gellir llusgo’r ddelwedd o’r dudalen cynllun cefnogi dysgu personol yn syth i ddogfen Word.
Arholiadau Mewn Person ar Campws
Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau arholiadau mewn person ar campws yn llenwi llyfr ateb fel arfer. Bydd angen rhoi slip melyn papur (bydd angen ei gasglu o'r Brif Derbynfa, Llawr Gwaelod, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg) yn y llyfryn.
I’r rhai sy’n gwneud asesiad ar gyfrifiadur, bydd angen i chi ddilyn yr un drefn 芒’r adran Arholiadau Ar-lein uchod 鈥 a chop茂o a gludo’ch slip melyn ar flaen eich arholiad.