Tudalennau Caplaniaeth a Darpariaeth Ffydd
- Caplaniaeth a Darpariaeth Ffydd
- Darpariaeth Ffydd Lleol
- Adnoddau Caplaniaeth (a dolenni i wybodaeth ddefnyddiol)
- Tîm y Gaplaniaeth
- Cwrdd â tîm y Gaplaniaeth
- Gweddïau Fwslimaidd
- Anecs Rathbone a Gweddïau Fwslimaidd
- Myfyrdod y Mis
- Profedigaeth
- Cymdeithas Staff Cristnogol Prifysgol ³Ô¹ÏȺÖÚ
Newyddion Y Gaplaniaeth a darpariaeth ffydd ehangach
Newyddion a Digwyddiadau
Darlith Tîm Caplaniaeth Prifysgol ³Ô¹ÏȺÖÚ
Darlith Gyhoeddus Ar-lein (Teams)
3 o’r gloch y pnawn - Dydd Iau, 20 Chwefror 2025
Renos K Papadopoulos, PhD., FBPSS
Trawma, Lloches a Ffoaduriaid
Heriau wrth weithio gyda sefyllfaoedd cymhleth o aml-erledigaeth
Y dyddiau hyn, gwelwn gynnydd rhyfeddol yn amlder a dwyster gwahanol fathau o 'ffurfiau difrifol o adfyd cyfunol' yn ein byd, sy'n anochel yn effeithio arnom ni mewn sawl ffordd. Mae’r cyfryngau cyfathrebu torfol a’r cyfryngau cymdeithasol yn ein boddi ag esboniadau a naratifau cyferbyniol, yn amrywio o’r credadwy i’r rhyfedd, ond gan gyflwyno adroddiadau sydd gan fwyaf wedi’u gorsymleiddio ac yn unochrog. Y ffordd amlycaf o bell ffordd o ddeall ymateb pobl (yn unigol ac ar y cyd) i'r digwyddiadau trallodus hyn fu 'trawma'. Eto i gyd, bu’r 'disgwrs trawma' yn ddiffygiol o ran amgyffred agweddau mwy cynnil y profiadau hyn.
Nod y cyflwyniad hwn yw darparu fframwaith sy'n mynd i'r afael â'r cymhlethdodau hyn, gan ddirnad agweddau newydd ac arwyddocaol ar y ffenomenau hyn, yn cynnwys y frwydr sylfaenol i ddeall dioddefaint dynol; natur ac effeithiau aml-erledigaeth; cymhlethdodau 'anafiadau moesol'; ac ailwerthuso’r agweddau o staff yn gorflino a’u hunanofal. Yn ganolog i'r fframwaith hwn mae'r 'Grid Adfyd', sy'n cysyniadoli'n ystyrlon yr ystod o ganlyniadau sy'n deillio o’r digwyddiadau trallodus hyn, gan bwysleisio pwysigrwydd osgoi trin dioddefaint dynol fel patholeg, adnabod cryfderau hen a newydd, a galluogi rheoli sefyllfaoedd cymhleth yn briodol.
Mae Renos K Papadopoulos, PhD., FBPSS, yn Athro a Chyfarwyddwr Y Ganolfan Trawma, Lloches a Ffoaduriaid a'r Rhaglenni MA/PhD mewn Gofal Ffoaduriaid ym Mhrifysgol Essex. Mae hefyd yn Seicolegydd er anrhydedd yng Nghlinig Tavistock. Mae'n Seicolegydd Clinigol, yn Seicdreiddiwr Jungian, ac yn Therapydd Teuluol Systemig sy’n gweithio fel ymarferydd clinigol, hyfforddwr a goruchwyliwr. Ar gorn ei waith yn ymgynghorydd i'r Cenhedloedd Unedig a sawl sefydliad arall, bu’n gweithio gyda ffoaduriaid, pobl wedi'u harteithio a’u masnachu a goroeswyr trais gwleidyddol a thrychinebau eraill mewn amryfal wledydd. Mae ei ysgrifau wedi ymddangos mewn 18 o ieithoedd. Derbyniodd wobrau gan sawl corff rhyngwladol am ei agwedd unigryw at waith dyngarol. Mae ei ddau lyfr diweddaraf yn trafod Anafiadau Moesol, a Dadleoliad Anwirfoddol; gyda’r olaf o’r rhain wedi'i glodfori am sefydlu patrwm newydd yn y maes.
Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond rhaid . Anfonir dolen i'r ddarlith ar ôl cofrestru.
Darlith o gael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg.
Diwrnod cofio’r Holocost
Dyddiad: Dydd Llun, 27 Ionawr
Amser: 10:30am – 11:30am
Lleoliad: Neuadd Powis
Cyswllt: Ingrid Pedersen
Thema’r gwasanaeth eleni yw ‘ar gyfer dyfodol gwell’ a bydd yn cynnwys cerddoriaeth
a darlleniadau gan ysgolion lleol, aelodau o'r gymuned leol a'r cyngor lleol, Undeb y
Myfyrwyr, y Tîm Caplaniaeth, ynghyd â staff y brifysgol.
Cynhelir Diwrnod Cofio'r Holocost yn y DU ers 2001, a chynhelir dros 7,700 o
weithgareddau lleol ar 27 Ionawr, neu o gwmpas y dyddiad hwnnw, bob blwyddyn.
Cynhelir y gwasanaeth, sydd am ddim ac yn agored i'r cyhoedd. Mae angen cofrestru
Gwasanaeth Carolau
Dyddiad: Nos Iau, 12 Rhagfyr
Amser: 7:00pm – 8:30pm
Lleoliad: Neuadd Prichard Jones, Prif Adeilad y Brifysgol
Cyswllt: Ingrid Pedersen, Swyddog Digwyddiadau Corfforaethol
Ymunwch yn ysbryd yr ŵyl wrth i ni ganu carolau clasurol a dathlu llawenydd y Nadolig gyda’n gilydd.
Mae Gwasanaeth Carolau y Brifysgol yn gyfle i ddod ynghyd i gofio’r rheswm dros ddathliadau’r Nadolig ac i ddiolch; i glywed rhai perfformiadau bendigedig gan Gôr y Siambr a Bandiau Cyngerdd a Phres y Brifysgol, ac i ymuno yn rhai o’ch hoff garolau.
Ymunwch yn ysbryd yr ŵyl wrth i ni ddathlu llawenydd y Nadolig gyda’n gilydd. Dewch â'ch ffrindiau a'ch teulu gyda chi am noson o ryfeddod yn llawn cerddoriaeth a darlleniadau.
Mae’r digwyddiad am ddim, ond mae angen cofrestru o flaen llaw.
Croeso i bawb!
Gwasanaeth Dydd y Cofio
Cynhelir Gwasanaeth Dydd y Cofio byr ddydd Llun, 11 Tachwedd, yn yr awyr agored yn y Cwad Mewnol, Prif Adeilad y Celfyddydau neu dan do ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau os bydd y tywydd yn wael.
Arweinir y gwasanaeth gan y Parchedig John Thompson, Gweinidog yn Eglwys Bedyddwyr Penrallt. Mae John yn un o Gaplaniaid gwirfoddol Tîm Caplaniaeth y Brifysgol.
Bydd y gwasanaeth yn dechrau tua 10:50am ac yn para oddeutu 15 munud yn cynnwys dau funud o dawelwch am 11:00am.
Mae croeso i bawb.
Gwasanaeth Carolau'r Brifysgol
Trefn y Gwasanaeth
Chanukah
Gwasanaeth Dydd y Cofio
Cynhelir Gwasanaeth Dydd y Cofio byr ddydd Gwener, 10 Tachwedd, yn yr awyr agored yn y Cwad Allanol, Prif Adeilad y Celfyddydau neu dan do ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau os bydd y tywydd yn wael.
Arweinir y gwasanaeth gan y Parchedig John Thompson, Gweinidog yn Eglwys Bedyddwyr Penrallt. Mae John yn un o Gaplaniaid gwirfoddol Tîm Caplaniaeth y Brifysgol.
Bydd y gwasanaeth yn dechrau tua 10:50am ac yn para oddeutu 15 munud yn cynnwys dau funud o dawelwch am 11:00am.
Mae croeso i bawb.
Eglwys Uniongred Ddwyreiniol
Cwrdd Crynwyr ym Mhrifysgol ³Ô¹ÏȺÖÚ
Ystafell Cyfarfod 2, Llawr isod
Neuadd Rathbone
Bob 4ydd Mercher
Dechrau 22eg Mawrth
(26 Ebrill, 24 Mai, 28 Mehefin, 26 Gorffennaf)
Cyfarfod ein gilydd 2.15pm
Dechrau 2.30-3pm
Myfyrfodi yn ddistaw
Dadblygu yn ysbrydol
Cyfeillgarwch a
Chefnogaeth