CAM 3: Aesiad Risg
Ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o deithio, eich Asesiad Risg fydd cwblhau'r Hysbysiad Teithio Dramor Gorfodol, ochr yn ochr ag Asesiad Risg Teithio Dramor Cyffredinol y Brifysgol. Gwiriwch fod eich gweithgareddau a risg eich cyrchfan yn cyd-fynd â'r asesiad risg hwn. Mae'r Dudalen We Teithio yn rhoi cysylltiadau i ffynonellau gwybodaeth a llawlyfrau sy'n egluro beth sydd angen ei gynnwys mewn Asesiad Risg Gweithgaredd, e.e. sefyllfa wleidyddol, brechlynnau.
Dylai teithwyr fod yn ymwybodol y gall fod gan rai gwledydd a rhanbarthau agweddau gwahanol tuag at deithwyr penodol, er enghraifft, merched ar eu pen eu hunain, LHDT. Mae gan yr FCDO wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer teithwyr a sydd â chysylltiadau â sefydliadau eraill i helpu i baratoi a nodi meysydd a allai fod yn anniogel.
Mae Adnoddau Dynol hefyd wedi paratoi Canllawiau Cydraddoldeb Gweithio Dramor i Staff.
Gweithgareddau a Chyrchfannau Risg Uwch
Mewn rhai achosion, fel rheol yn dibynnu ar yr ardal yr ymwelir â hi neu'r gweithgaredd a gyflawnir, rhaid ategu'r Hysbysiad Teithio Dramor Gorfodol ar-lein gydag Asesiad Risg Gweithgaredd penodol, sy'n nodi'r risgiau a'r camau rheoli. Bydd angen i hwn gael ei gymeradwyo gan aelod staff uwch mewn Coleg / Ysgol / Gwasanaeth.
Gwaith Maes Grŵp a Gwaith Maes
Mae angen asesiad risg ar gyfer pob gwaith maes dramor, yn union fel sydd ei angen ar gyfer gwaith maes yn y Deyrnas Unedig.
Ni ddylai paratoi Asesiad Risg Gwaith Maes fod yn feichus. Os caiff ei wneud mewn da bryd cyn gadael, mae'n gymorth cynllunio defnyddiol ar gyfer logisteg teithiau cyffredinol i sicrhau bod popeth yn ei le. Mae hyn yn cynnwys trefniadau cyn y daith a thramor a Gweithdrefnau Argyfwng os bydd rhywbeth yn mynd o'i le.
Mae'r Llawlyfr Gwaith Maes Hyfforddedig yn cynnig awgrymiadau ynghylch materion eraill wrth drefnu gwaith maes dramor, megis, Cymeradwyaeth Foesegol (a allai fod yn angenrheidiol ar gyfer y gweithgaredd).
Amseroedd Trefnu
Cofiwch y gall trefniadau gymryd amser. Er enghraifft, fisa, pasbort neu frechlynnau y mae angen eu cael ar adegau penodol cyn gadael neu mewn dosau wythnosau ar wahân.
Dolenni