CAM 4: Hanfodion Iechyd ar Gyfer Teithio
Brechlynnau / Meddyginiaeth
Cyn teithio, dylech sicrhau bob amser bod y brechlynnau a'r meddyginiaethau (e.e. proffylacsis malaria) cywir gennych ar gyfer eich cyrchfan a’ch gweithgaredd. Cofiwch bod angen cymryd rhai (e.e. tabledi malaria) ar adegau penodol cyn cychwyn, neu hyd yn oed mewn dosau wythnosau ar wahân.
Mae gwefan Fit for Travel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (dolen a chyngor ar sut i'w defnyddio ) yn rhestru pa frechlynnau a phroffylacsis, o leiaf, a gynghorir wrth deithio i wledydd unigol. Caiff staff a myfyrwyr sy'n teithio dramor ar fusnes sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol eu cynghori’n gryf i drefnu brechlynnau / proffylacsis yn unol ag argymhellion Fit for Travel yn uniongyrchol gyda’u meddyg teulu neu fferyllfa berthnasol. Efallai y codir tâl yn dibynnu ar y driniaeth. Siaradwch â'ch Coleg / Ysgol / Gwasanaeth i ganfod pa gostau fydd yn cael eu had-dalu.
Lle bo'n briodol, cariwch yr ‘International Certificate of Vaccination or prophylaxis’ (ICVP) bob amser fel prawf bod gennych y brechlynnau cywir.
Y Dwymyn Felen: Mae angen tystysgrif y Dwymyn Felen ar rai gwledydd i fynd i mewn i’r wlad neu i deithio drwyddi, ac mae'n bwysig gwerthuso gofynion tystysgrif y dwymyn felen cyn teithio.
Teithio gyda Meddyginiaethau
Byddwch yn ymwybodol y gall fod cyfyngiadau, neu hyd yn oed waharddiadau, mewn perthynas â pha feddyginiaethau y gellir mynd â nhw dramor. Er enghraifft, mae cyffuriau opiadau fel codeine wedi eu gwahardd mewn rhai gwledydd. Mewn rhai achosion, byddwch angen Llythyr Meddyg Teulu yn cadarnhau pam eich bod angen meddyginiaeth. Mae'r yn cynnig gwybodaeth. Gweler hefyd Ystyriaethau Iechyd Cynt isod.
Ystyriaethau Iechyd Eraill
Yn ogystal â materion iechyd cyffredinol, er enghraifft llosg haul, bydd angen i rai ystyried cyflyrau meddygol sydd ganddynt eisoes sy’n golygu bod angen meddwl sut y bydd y cyflwr yn cael ei reoli dramor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y cysylltiadau isod.
Dolenni
-
– cyngor gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n rhestru gwybodaeth am frechlynnau etc fesul gwlad
-
-
– cyngor cyffredinol gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
-
(NaTHNaC)
-
- gwasanaeth 'preifat' sy'n rhoi manylion cyngor iechyd i deithwyr
-
(WHO)
Defnyddio Fit for Travel
Dewiswch ‘Country’ ac yna ‘Select Vaccinations’