CAM 5: Hanfodion Teithio
Mae'r canlynol yn amlinellu pethau sylfaenol o ran synnwyr cyffredin wrth gynllunio i deithio i rai gwledydd.
Mae dolenni’r Dudalen Gwefan Teithio yn darparu amrywiaeth o ffynonellau i ateb unrhyw ymholiadau, a dolen i Lawlyfr Teithio Staff a Myfyrwyr y Brifysgol. Ar gyfer teithio i Goleg 吃瓜群众 yn Tsieina, gwelwch y Llawlyfr pwrpasol.
Mae'r yn ddull cynllunio defnyddiol arall, yn cynnwys y pwyntiau hanfodol 'cyn i chi fynd' i sicrhau eich bod yn ystyried fis芒u, iechyd ac ati a phethau eraill 芒 chyfyngiadau amser.
Dolenni
Hyfforddiant: |
Gwnewch y modiwl E-ddysgu Teithio sy'n cadarnhau trwy e-bost pan fyddwch wedi cwblhau’r modiwl. Os ydych yn teithio i ardaloedd risg uwch neu'n cynnal gweithgaredd risg uwch, gwiriwch bob amser am ofynion hyfforddiant arbenigol. Trefnwch, yn 么l yr angen. |
Achosion o argyfwng: |
Byddwch yn barod am sefyllfaoedd 'beth os' a gwnewch yn si诺r bod gennych yr holl rifau cyswllt a manylion yswiriant teithio perthnasol rhag ofn y bydd argyfwng. Fel rhan o hyn, ystyriwch anawsterau yn gysylltiedig 芒 sut byddech yn galw am gymorth. Er enghraifft, efallai na fydd eich ff么n symudol yn gweithio mewn rhai gwledydd, neu efallai y bydd angen i chi brynu cerdyn SIM penodol. Ap defnyddiol yw 'What3Words' a fydd yn eich helpu chi ac eraill i ddod o hyd i'ch union leoliad unrhyw le yn y byd. |
Cefnogaeth Frys: |
Prifysgol 吃瓜群众 24/7/365: +44 1248 38 2795 CEFNOGAETH FEDDYGOL AC MEWN ARGYFWNG Global Response +44 (0)2920 662425 E-bost: UMAL@global-response.co.uk (Cyf: UMAL 026) |
Dogfennau: |
Pasbort: Gwiriwch tan pryd mae’n ddilys a thynnwch lun o dudalen manylion eich pasbort. E-bostiwch hwn i chi'ch hun ar gyfeiriad e-bost hawdd ei gyrchu (fel gmail.com, yahoo.mail) a'i rannu 芒'ch cyswllt brys. Gwiriwch am wledydd nad ydynt yn hoffi stampiau gwledydd penodol ar eich pasbort. Fisa: Sicrhewch eich bod wedi gofyn am Fis芒u ar gyfer y gyrchfan a'r wlad y teithir drwyddi, a bod y rhain yn addas ar gyfer y gweithgaredd dan sylw a hyd y daith. Gwybodaeth am Westai a Theithiau Awyren: Cadwch y wybodaeth hon mewn lleoliadau lluosog, gan gynnwys gyda theulu, ffrindiau, neu gydweithwyr fel y bo'n briodol. |
Diwylliant: |
Gwiriwch arferion lleol a chrefyddol a all amrywio ac y mae'n rhaid i chi eu parchu o ran y ffordd rydych yn ymddwyn ac yn gwisgo, er enghraifft efallai bod dangos anwyldeb, yfed alcohol a ffilmio/ffotograffiaeth wedi eu cyfyngu neu hyd yn oed wedi eu gwahardd mewn rhai gwledydd. Byddwch yn barod hefyd y gall y ffordd y mae anifeiliaid a hyd yn oed pobl yn cael eu trin mewn rhai gwledydd fod yn wahanol i'r Deyrnas Unedig. |
Llety: |
Ceisiwch archebu llety y mae gennych wybodaeth amdano. Gofynnwch i gydweithwyr, ffrindiau neu deulu sydd wedi teithio i’r ardal o’r blaen neu siaradwch 芒’ch cyswllt tramor am gyngor. Neu defnyddiwch asiantau neu safleoedd archebu dibynadwy. Ar 么l cyrraedd, dylech ymgyfarwyddo ag allanfeydd t芒n etc, a chloi eich ystafell, hyd yn oed os mai dim ond picio i mewn yr ydych i gasglu rhywbeth rydych wedi ei anghofio. |
Cludiant: |
Mae cyflwr cerbydau a'r ffordd mae pobl yn gyrru yn amrywio o amgylch y byd, (nid pa ochr o'r ffordd y maent yn gyrru yn unig!) a all wneud gyrru a hyd yn oed cerdded yn anodd. Mae'n bosibl hefyd y bydd dulliau teithio anarferol i bobl leol y byddai'n well eu hosgoi. Gofynnwch i gysylltiadau tramor neu eich gwesty am gyngor ar gludiant 'diogel', e.e. cludiant cyhoeddus, cwmn茂au tacsi, cerbydau i'w llogi gyda gyrrwr. |
Lles Cyffredinol: |
Cofiwch efallai na fydd d诺r yn syth o'r tap yn ddiogel i'w yfed neu efallai fod ganddo gynnwys mwynau gwahanol a all achosi anhwylder ar y stumog. Gall y mathau o fwyd sydd ar gael a safonau hylendid cyffredinol, gan gynnwys y math o doiledau hefyd fod yn wahanol ledled y byd. Pan fyddwch yn teithio mae bob amser yn syniad da cario hancesi papur sb芒r (rhag ofn nad oes papur toiled) a gel gwrthfacteria i lanhau dwylo. Gweler Hanfodion Iechyd ar gyfer Teithio am fwy o gyngor ar iechyd a lles cyffredinol. |
Diogelwch Cyffredinol: |
|
Dwyn: |
Peidiwch 芒 chario pethau gwerthfawr, pasbortau ac ati oni bai bod yn rhaid i chi ac y dylech eu gadael mewn lle diogel os nad ydych yn eu cario, er enghraifft eu cadw yn s锚ff y gwesty. Hefyd, ewch 芒 chop茂au o ddogfennau hanfodol gyda chi bob amser neu storiwch gop茂au electronig y gellwch fynd atynt os bydd angen. Mae hyn yn cynnwys dogfennau fel Yswiriant Teithio, Pasbort Fisa, Tystysgrif Brechlynnau. |