CAM 2: Hysbysiad Teithio Dramor Gorfodol
Mae'n rhaid i bob taith ar fusnes sy'n ymwneud â'r Brifysgol gael ei chofnodi ar y Porth Hysbysiad Teithio Dramor Gorfodol cyn teithio ac yn dilyn cymeradwyaeth gan y Coleg, Ysgol neu Wasanaeth.
Cwblhewch yr o leiaf bythefnos cyn gadael, gan ddarparu manylion teithio a Manylion Cyswllt Argyfwng. Dim ond os bydd argyfwng yn ystod y daith yr edrychir ar Fanylion Cyswllt Argyfwng ac y byddant yn cael eu defnyddio.
Yswiriant
Bydd cwblhau'r Hysbysiad hefyd yn caffael Yswiriant Teithio Dramor y Brifysgol. Lle mae cyflyrau iechyd yn bodoli eisoes, efallai y bydd angen trafod y rhain gyda'r Swyddog Yswiriant.
Sylwch nad yw Yswiriant Teithio Personol safonol fel rheol yn cynnwys teithio ar fusnes ac mae'n hanfodol bod yr Hysbysiad Teithio Dramor Gorfodol yn cael ei gwblhau.
Byddwch yn ymwybodol, er bod yswiriant y Brifysgol yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith ac astudio dramor, efallai y bydd angen i chi wirio a yw'n ddigonol ar gyfer eich gweithgaredd neu gyrchfan chi. Er enghraifft, oherwydd y wlad y byddwch yn ymweld â hi, hyd eich arhosiad, y mathau o weithgareddau a gyflawnir, yn enwedig os byddwch yn teithio ymhellach, ac unrhyw anghenion meddygol arbennig fydd gennych megis presgripsiwn meddygol parhaus (gweler CAM 4: Hanfodion Iechyd Teithio). Gall Swyddog Yswiriant y Brifysgol ateb ymholiadau ynghylch hyn.
Cofiwch, os ydych yn bwriadu cyflawni gweithgareddau risg uwch (e.e. neidio bynji!) yn eich amser ei hun neu'n bwriadu ymestyn eich arhosiad er mwyn ymweld â rhywle, mae'n rhaid i chi drefnu eich Yswiriant Teithio Personol eich hun a chadarnhau ei fod yn cynnwys cludo’n ôl i'r Deyrnas Unedig.
Ewch â'r holl wybodaeth Hysbysiad Teithio ac Yswiriant gyda chi - copi o’r Nodyn Yswiriant Polisi, Rhif y Polisi, Rhifau Cyswllt Argyfwng, Cyfeirnodau.
SYLWCH: Ni fydd llawer o wledydd yn rhoi triniaeth feddygol heb brawf yswiriant, neu byddant yn codi tâl pan roddir y driniaeth. CYSYLLTWCH Â Global Response cyn talu unrhyw gostau meddygol. BYDD methu â gwneud hynny YN arwain at wrthod hawliadau treuliau meddygol dilynol.
Dolenni
-
-
Gweinyddwyr Colegau / Ysgolion / Gwasanaeth Proffesiynol y dylid cysylltu â nhw cyn teithio
- Swyddfa Yswiriant y Brifysgol
- Crynodeb Polisi Yswiriant Teithio (staff a myfyrwyr)