CAM 1: Awdurdodiad
RHAID i’r holl staff a myfyrwyr sy'n teithio dramor ar fusnes sy'n ymwneud â'r Brifysgol gwblhau'r Hysbysiad Teithio Dramor Gorfodol ar-lein, a dilyn yr holl weithdrefnau awdurdodi teithio dramor (ac ariannol) cyffredinol a nodwyd gan eu Coleg / Ysgol / Gwasanaeth.
Rhaid i staff sy'n teithio dramor ar fusnes y Brifysgol ofyn am gymeradwyaeth eu Coleg, Ysgol neu Wasanaeth Proffesiynol perthnasol.
Wrth gynllunio taith a chyn unrhyw deithio dramor, rhaid i staff a myfyrwyr wirio’r (FCDO) a Crisis24 am gyngor ar gyfer y wlad y teithir iddi a’r gwledydd y teithir trwyddynt ar y ffordd.
Mewn rhai achosion, fel y manylir isod, bydd angen awdurdodiadau a / neu amodau ychwanegol cyn awdurdodi teithio. Os byddwch yn teithio i wlad sydd â statws risg FCDO uchel, bydd gofyn i chi dderbyn cymeradwyaeth naill ai gan y Dirprwy Is-ganghellor, Pennaeth y Coleg neu hyd yn oed y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Rheoli Argyfyngau’r Brifysgol.
Cyfyngiadau Teithio Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO)
Ar gyfer rhanbarthau lle mae'r yn cynghori yn erbyn unrhyw deithio i ardal “oni bai am deithio ar fusnes hanfodol”:
-
Dylai'r Teithiwr drafod teithio gyda’r tîm iechyd a diogelwch canolog ac yna’n cyflwyno’r holl fanylion i’w Dirprwy Is-Ganghellor, Pennaeth Coleg / Cyfarwyddwr o leiaf 15 diwrnod gwaith cyn y bwriedir teithio, ynghyd â’r asesiad risg penodol.
-
Dylai Pennaeth y Coleg neu'r Cyfarwyddwr gadarnhau yn gyntaf fod cyfiawnhad dros y rheswm a phwysigrwydd teithio ac yna trafod y cynnig gyda'r adran iechyd a diogelwch canolog.
-
Rhaid i'r Teithiwr hysbysu Swyddog Yswiriant y Brifysgol, a fydd yn cadarnhau bod yswiriant ar gael ar gyfer teithio ai peidio.
-
Os gellir cyfiawnhau'r teithio a bod yr asesiad risg yn addas a bod Yswiriant yn cael ei gadarnhau, gall y Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth y Coleg / Cyfarwyddwr Gwasanaethau Proffesiynol wedyn awdurdodi teithio.
- Sylwer: Os yw’r Dirprwy Is-Ganghellor, Pennaeth y Coleg neu’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Proffesiynol yn dymuno teithio, bydd y Dirprwy i’r Is-Ganghellor (Arweinyddiaeth Academaidd) yn cymeradwyo teithio.
Pan fo’r yn cynghori yn erbyn unrhyw deithio i ardal:
-
Rhaid i’r Dirprwy Is-Ganghellor, Pennaeth y Coleg / Cyfarwyddwr ystyried y cynnig a'r asesiad risg cysylltiedig a manylion y daith a chadarnhau bod cyfiawnhad dros y daith ac y byddai'n cael ei chefnogi.
-
Ar ran y Teithiwr, bydd y Dirprwy Is-Ganghellor, Pennaeth y Coleg / Cyfarwyddwr yn darparu Cynnig, sy'n manylu ar y risgiau teithio, y mesurau lliniaru a'r trefniadau, i'r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Rheoli Argyfyngau i'w ystyried.
-
Dylid gwneud cais am deithio i'r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Rheoli Argyfyngau o leiaf 15 diwrnod gwaith cyn y dyddiad gadael arfaethedig er mwyn ystyried y cais, a’i gymeradwyo, neu beidio.
Teithio i Wlad neu Ranbarth Cartref
- Gall staff neu fyfyrwyr sydd eisiau dychwelyd i'w gwlad gartref ar gyfer ymchwil/gwaith, a bod gan y wlad (neu ranbarth) dan sylw gyfyngiadau teithio gan yr FCDO i ddinasyddion o'r Deyrnas Unedig, gael caniatâd i deithio ar yr amod y cyflawnir meini prawf penodol. Gweler y Polisi Teithio Dramor am fanylion llawn.
Dolenni
-
Polisi Teithio Dramor - Cyfieithiad i ddod