Menter a Hunangyflogaeth
Mae B-Fentrus yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion o Brifysgol ³Ô¹ÏȺÖÚ i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau menter neu eu cefnogi i ddechrau busnes newydd.
Mae datblygu eich sgiliau menter yn bwysig, nid yn unig i’r rhai sydd am fod yn hunangyflogedig, ond hefyd i’r rhai sydd mewn cyflogaeth - gan eu helpu i ddatblygu’r hyder ‘gallaf-wneud’, cwestiynu creadigol a pharodrwydd i fentro. Mae’r nodweddion hyn yn cael eu cydnabod fwyfwy gan gyflogwyr wrth iddynt fod yn barod ar gyfer economi sy’n newid yn gyflym ac i alluogi unigolion i reoli ansicrwydd yn y gweithle a phatrymau gwaith a gyrfaoedd hyblyg.
Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth Asiantaeth Sicrhau Ansawdd 2018
Darllen Adroddiad Effaith 2023-2024 Byddwch Fentrus
I’r rhai sydd â diddordeb mewn Dechrau Busnes
Rydym yn cydweithio â nifer o wahanol bartneriaid i roi cefnogaeth dechrau busnes i raddedigion entrepreneuraidd.
Mae ein darpariaeth yn newid yn rheolaidd felly cysylltwch â ni i gael y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â gweithgareddau a chyllid.
Mentora busnes un i un
Mae apwyntiadau mentora busnes ar gael i fyfyrwyr a graddedigion sydd eisiau datblygu syniad busnes, menter cymdeithasol neu yrfa llawrydd.
Gweithdai
Gall myfyrwyr a graddedigion gael mynediad at weithdai a gweminarau, boed yn sgiliau mewnol, cychwyn busnes penodol neu gyffredinol, a’r rhai a ddarperir gan M-SParc, yr Hwb Menter, Syniadau Mawr Cymru ac eraill.
Cyllid a Man DeoriMae’n bosibl y bydd myfyrwyr a graddedigion cymwys sy’n agos at gychwyn busnes hefyd yn gallu cael cyllid a desg am ddim yn y gofod Deori yn M-SParc ar Ynys Môn.
Hyrwyddo a Rhwydweithiau
Os ydych wedi graddio o Brifysgol ³Ô¹ÏȺÖÚ ac eisoes wedi dechrau eich busnes eich hun yna rhowch wybod i ni gan y byddem yn croesawu’r cyfle i’ch hyrwyddo chi a’ch busnes a’ch cysylltu â’n rhwydweithiau.
I Staff
Mae cefnogaeth ar gael i staff Prifysgol ³Ô¹ÏȺÖÚ ddatblygu mentergarwch o fewn y cwricwlwm. Trwy gyllid allanol, cwblhawyd amrywiaeth o brojectau staff.
Newydd ar gyfer 2025, mae Dr Beth Edwards (Prifysgol ³Ô¹ÏȺÖÚ) a Kelly Jordan (Prifysgol Abertawe) wedi creu adroddiad sy’n addas ar gyfer staff addysgu, Dysgu ac ymchwil mewn Addysg Uwch, o’r enw: CYLCH AUR ADDYSG FENTER, BETH, SUT A PHAM. Anfonwch unrhyw adborth, sylwadau neu gwestiynau at Dr Beth Edwards.
Syniadau Mawr Cymru
Mae gan Syniadau Mawr Cymru nifer fawr o wybodaeth a chefnogaeth i raddedigion dan 26 oed sydd â diddordeb mewn dechrau busnes. Cliciwch arwww.bigideaswales.comi weld gwybodaeth ddefnyddiol, straeon sy’n ysbrydoli. A chysylltiadau â’r Hyrwyddwyr Menter ym mhob un o’r sefydliadau.
Mae cysylltiadau defnyddiol eraill yn cynnwys:
Cysylltu â ni
Os oes gennych syniad ar gyfer dechrau eich busnes eich hun neu fenter gymdeithasol, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad.
Byddem yn falch iawn o glywed gennych!
Anfonwch e-bost at: b-fentrus@bangor.ac.uk
Caiff Byddwch Fentrus ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid i Gymru.