Ymddygiad a Chwynion Myfyrwyr (gan gynnwys disgyblaeth ac apeliadau academaidd)
Mae'r adran hon yn cynnwys cyngor, arweiniad a chysylltiadau i'ch galluogi i gyflwyno cwyn (fel myfyriwr), adrodd am fater disgyblu neu wneud ap锚l academaidd ac mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut i geisio cefnogaeth fel naill ai'r sawl sy'n adrodd am y mater neu'r sawl sy'n destun yr adroddiad.
Mae gan Brifysgol 吃瓜群众 amrywiaeth eang o raglenni academaidd ac amrywiaeth o wasanaethau i fyfyrwyr ac, ar brydiau, efallai na fydd pethau bob amser yn bodloni eich disgwyliadau, felly dywedwch wrthym os yw hyn yn wir a byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn delio 芒'r broblem. Ein nod yw datrys pob mater yn anffurfiol os yw hynny'n briodol ac annog unrhyw achwynydd posib (rhywun sy'n gwneud cwyn) neu apelydd (rhywun sy'n gwneud ap锚l) i geisio datrys unrhyw faterion cyn adrodd amdanynt yn ffurfiol os yw hynny'n briodol ac yn bosib.
Er mwyn sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wneir yn gyson ac yn gadarn, gallwn wneud ymholiadau yn seiliedig ar yr adroddiadau a dderbyniwn. Mae natur y maes hwn yn golygu efallai y bydd rhaid i ni rannu'r wybodaeth a dderbyniwn gyda staff eraill y tu allan i'n gwasanaeth ar brydiau. Efallai y bydd rhaid i ni hefyd weithio gyda myfyrwyr, adrannau neu gyrff proffesiynol ac rydym yn addo gwneud hynny mewn modd synhwyrol a chyfrinachol yn unol 芒'n polis茂au a'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).
Mae Prifysgol 吃瓜群众 yn gweithredu yn unol 芒 gofynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (OIA) a chaiff ein gweithdrefnau myfyrwyr eu hadolygu o bryd i'w gilydd yn erbyn egwyddorion craidd Fframwaith Arfer Da Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol. Bydd pob un o'n gweithdrefnau yn arwain at ganlyniad ar wahanol gamau ac mae gennych hawl i apelio yn erbyn y canlyniadau hynny nes bydd y gweithdrefnau hynny wedi eu cwblhau.
Y T卯m Gwaith Achos Myfyrwyr sy'n gyfrifol am reoli a monitro cwynion myfyrwyr, materion disgyblu ac apeliadau academaidd. Mae croeso i chi gysylltu 芒 ni i gael arweiniad ar sut i ddelio 芒'r materion hyn os ydych yn ansicr beth i'w wneud, neu os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau neu os ydych am apelio yn erbyn canlyniad gweithdrefn.
Cefnogaeth gyda'r materion hyn
Gall myfyrwyr sy'n gwneud cwyn, ap锚l academaidd neu sy'n adrodd am fater disgyblu, a myfyrwyr sy'n destun disgyblu gysylltu 芒'r Gwasanaethau Myfyrwyr neu Undeb y Myfyrwyr am gyngor cyfrinachol a/neu gynrychiolaeth a gall rhywun fynd gyda hwy a/neu eu cynrychioli mewn unrhyw gyfarfodydd os byddant yn dewis hynny. Gallwch ofyn i rywun o Undeb y Myfyrwyr, neu eich tiwtor personol, neu weithiwr cymorth, neu ffrind ddod i'r cyfarfod gyda chi.
Gwasanaethau Myfyrwyr
Mae gan Brifysgol 吃瓜群众 amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael i chi os ydych naill ai'n adrodd am fater disgyblu neu'n destun mater disgyblu, a chewch fynediad at y gefnogaeth honno trwy'r Gwasanaethau Myfyrwyr.
Cyngor annibynnol
Rydym yn annog myfyrwyr i geisio cefnogaeth, arweiniad a chyngor annibynnol wrth wneud cwyn, adrodd am fater disgyblu neu gyflwyno ap锚l academaidd gan - Undeb y Myfyrwyr.
Ymddygiad a Chwynion Myfyrwyr
- Cwyn Myfyrwyr
Rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno cwyn am raglen academaidd neu wasanaeth yn y brifysgol. - Disgyblu Myfyrwyr
Rhagor o wybodaeth am sut i adrodd am fater disgyblu yngl欧n 芒 myfyriwr neu gr诺p o fyfyrwyr. - Apeliadau Academaidd
Rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno ap锚l academaidd yn ymwneud 芒'ch rhaglen neu eich cwrs. - Cwestiynau Cyffredin
Gweler ein cwestiynau cyffredin am restr o gwestiynau ac atebion cyffredin.