Hysbysiad Preifatrwydd i Unigolion (nad ydynt yn staff nac yn fyfyrwyr) sy'n ymwneud 芒 Phrifysgol 吃瓜群众
1. Rhagarweiniad
Prifysgol 吃瓜群众 (PB) yw'r rheolwr data mewn perthynas 芒'ch gwybodaeth, fel y caiff ei diffinio yn Neddf Diogelu Data 2018 ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu eich hawliau, yn unol 芒 Deddf Diogelu Data 2018聽a'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).
Cynrychiolydd penodedig y brifysgol dros ddeddfwriaeth diogelu data, a'r Swyddog Diogelu Data, yw:
Rheolwr Cyfreithiol & Chydymffurfio Gwasanaethau Llywodraethu Gwasanaethau Corfforaethol
Prifysgol 吃瓜群众 Ffordd y Coleg 吃瓜群众 Gwynedd
LL57 2DG
Mae'r datganiad hwn yn egluro sut mae'r brifysgol yn ymdrin 芒'ch gwybodaeth bersonol ac yn ei defnyddio. Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a bod yn agored ynghylch pa wybodaeth sydd ganddi. Mae gan y brifysgol ystod o bolis茂au a gweithdrefnau yn ymwneud 芒 diogelu data ac maent i'w cael ar y wefan.
Gellir casglu gwybodaeth bersonol amdanoch yn ganolog, a chan ysgolion ac adrannau'r brifysgol, er enghraifft gan Gelfyddydau Pontio, Canolfan Brailsford a T铆r na n脫g, meithrinfa'r brifysgol. Yn ychwanegol at yr hysbysiad preifatrwydd hwn, darperir hysbysiadau prosesu teg/preifatrwydd pellach wrth gasglu'ch data fel bo'r angen.
2. Pa wybodaeth ydym ni'n ei chasglu amdanoch?
Bydd PB yn casglu gwybodaeth amdanoch trwy gydol ei hymwneud 芒 chi fel unigolyn allanol sy'n rhyngweithio 芒'r brifysgol. Efallai y byddwn hefyd yn derbyn gwybodaeth amdanoch o'r tu allan i'r brifysgol, megis gwybodaeth atodol y gofynnir amdani gan y brifysgol, yn ogystal 芒 gwybodaeth a ddarperir gan ganolwyr. Mae'r mathau o wybodaeth bersonol a brosesir yn cynnwys y canlynol, er nad yw wedi ei chyfyngu iddynt:
- Manylion cyswllt a gwybodaeth arall a gyflwynir yn ystod eich ymwneud 芒 phrosesau'r brifysgol,聽e.e. mynd i ddigwyddiadau'r brifysgol, archebu tocynnau theatr neu sinema, archebu gweithgareddau chwaraeon, cymryd cwrs byr, defnyddio meithrinfa'r brifysgol etc.
- Manylion archebion am ystafelloedd a llety;
- Gwybodaeth ariannol a phersonol a gesglir at ddibenion gweinyddu taliadau am nwyddau a gwasanaethau;
- Gwybodaeth am iechyd ac anabledd er mwyn darparu cefnogaeth a chymorth i ymwelwyr a gwesteion;
- Iaith ddewisol;
- Ffotograffau a fideos at ddibenion
- Delweddau ar gyfer hyfforddi, dadansoddi gemau a phrosesau addysg tebyg
- Manylion cyswllt perthnasau agosaf, neu eraill, i'w defnyddio mewn
- Gwybodaeth yn ymwneud ag atal a chanfod troseddau a diogelwch staff, myfyrwyr ac ymwelwyr, gan gynnwys recordiadau CCTV a data'n ymwneud 芒 thorri rheoliadau'r brifysgol, er nad yw wedi'i gyfyngu i'r rhain
- Gwybodaeth a gasglwyd at ddibenion monitro cyfle
- Gwybodaeth a gasglwyd at ddibenion ymchwil, lle rydych chi'n cymryd rhan mewn
Gall peth o'r data hyn gael eu categoreiddio fel data categor茂au arbennig, fel y diffinnir hynny gan Ddeddf Diogelu Data 2018.
3. Sut caiff eich gwybodaeth ei defnyddio?
Nid yw'n bosibl nodi pob pwrpas y bydd Prifysgol 吃瓜群众 yn defnyddio'ch gwybodaeth yn ystod eich cysylltiad 芒 ni. Mae'r canlynol yn enghreifftiau o sut mae'r wybodaeth yn debygol o gael ei defnyddio. Mae'r rhif mewn cromfachau yn cyfeirio at y sail gyfreithiol y mae'r brifysgol yn dibynnu arni er mwyn prosesu eich data yn gyfreithlon, fel y diffinnir hynny gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
- Er mwyn cysylltu 芒 chi i roi gwybodaeth i chi am y brifysgol, ei nwyddau a'i gwasanaethau.聽(i)
- I weinyddu'ch ymwneud 芒 ni (e.e. eich archeb am le mewn cynhadledd, archebion yn ymwneud 芒 chwaraeon neu le i'ch plentyn yn y feithrinfa)聽(i), (iv)
- I ddarparu gwasanaethau i unigolion ag anableddau聽(ii)
- I weinyddu pob agwedd ariannol ar eich ymwneud 芒 ni聽(i).
- I ddarparu neu gynnig cyfleusterau a gwasanaethau i chi (e.e. llety, cyfleusterau chwaraeon, cyfleusterau cyfrifiadurol a defnyddio'r llyfrgell)聽(i), (ii,) (iii).
- I weithredu prosesau diogelwch, cwyno a sicrhau ansawdd ac at ddibenion adnabod cyffredinol聽(i).
- I fonitro ein cyfrifoldebau dan ein polis茂au deddfwriaeth cydraddoldeb聽(iv), (v).
Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth amdanoch
- Trwy ymwneud 芒 ni fel ymwelydd neu westai, bydd rhaid i Brifysgol 吃瓜群众 gasglu, storio, defnyddio a phrosesu gwybodaeth amdanoch ar gyfer unrhyw ddibenion sy'n gysylltiedig 芒 gweinyddu, cefnogi, ymchwil, adfer asedau, eich iechyd a'ch diogelwch ac am resymau eraill a ystyrir yn angenrheidiol ar gyfer聽gweithredu unrhyw gytundeb cytundebol gyda'r brifysgol. Gweler Erthygl 6 (1) (b) GDPR
- Bydd y brifysgol聽yn cael caniat芒d gennych聽er mwyn casglu a phrosesu eich data personol.聽Gweler Erthygl 6 (1) (a) GDPR
- Efallai y bydd angen prosesu eich data personol hefyd ar gyfer聽ein buddiannau cyfreithlon聽neu fuddiannau cyfreithlon trydydd parti - ond dim ond lle nad yw'r prosesu yn dod o fewn ein swyddogaeth gyhoeddus craidd, na fydd yn ddi-alw-amdano ac na fydd yn achosi effaith niweidiol i'ch hawliau a rhyddid, neu fuddiannau cyfreithlon chi fel unigolyn. Gweler Erthygl 6 GDPR ( 1) (f).
- Bod angen prosesu eich data personol ar gyfer聽cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd聽neu wrth weithredu awdurdod swyddogol a roddir i'r brifysgol (gweler Erthygl 6 (1) (e) GDPR) ac at ddibenion ystadegol ac ymchwil (gweler Erthygl GDPR 89).
- Bod angen prosesu data Categor茂au Arbennig at聽ddibenion ystadegol ac ymchwil聽yn unol ag erthygl 89 (1) yn seiliedig ar y dyletswyddau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (gweler Erthygl 9 (2) (j) GDPR)
4.聽 Pwy sy'n derbyn y wybodaeth amdanoch?
Lle bo'r angen, er mwyn darparu'r gwasanaethau yr ydym wedi rhoi gwybod i chi amdanynt, bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu'n fewnol rhwng adrannau academaidd a gwasanaethau proffesiynol ar draws y brifysgol. Bydd gwybodaeth bersonol a rennir fel hyn yn cael ei diogelu gan y brifysgol fel y nodir yn y聽Polisi Diogelwch Gwybodaeth, ac ni ddatgelir gwybodaeth i drydydd parti heb eich cydsyniad, neu, oni bai ei fod yn cael ei ganiat谩u yn 么l y gyfraith neu gontract.
Mae'r adran hon yn amlinellu'r prif sefydliadau a'r amgylchiadau mwyaf cyffredin pryd mae'r brifysgol yn datgelu gwybodaeth. Lle mae hynny'n cynnwys trosglwyddiad rhyngwladol, trosglwyddir gwybodaeth yn unig os yw'n cwrdd 芒'r amodau a amlinellir yn Neddf Diogelu Data 2018.
- Cwmn茂au adennill a rheoli dyledion聽er mwyn adennill dyledion ar ran y brifysgol, lle mae gweithdrefnau adennill dyledion mewnol wedi bod yn
- Asiantaethau yn y Deyrnas Unedig gyda dyletswyddau'n ymwneud ag atal a chanfod troseddau, casglu trethi neu dollau neu warchod diogelwch cenedlaethol.聽Dylech nodi bod dyletswydd statudol i sefydliadau addysg uwch roi sylw dyledus i'r angen i atal unigolion rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth. Gall hyn olygu y bydd angen i'r brifysgol, mewn amgylchiadau arbennig, drosglwyddo data personol i gyrff cydlynu a sefydliadau partner megis llywodraeth leol a'r heddlu. Yn ogystal, llysoedd neu Swyddfeydd
- Gall archwilwyr, cyfreithwyr, yswirwyr, asiantaethau casglu dyledion ac asiantau eraill y brifysgol聽fod angen mynediad at ddata personol o bryd i'w gilydd lle bo angen hynny. Bydd y penderfyniadau hyn bob amser yn cael eu gwneud fesul achos gan y Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio.
- i gefnogi'r broses olrhain cysylltiadau o dan reoliadau Covid-19, fel bo'r angen. Bydd data a gesglir yn benodol at y diben hwn yn cael ei gadw am 21 diwrnod yn unol 芒 chanllawiau'r llywodraeth.聽
- Gecko Engage聽i ddelio gydag ymholiadau gan ddarpar fyfyrwyr, ac i gofrestru mynychwyr yn ein digwyddiadau rhithwir ac ar y
- Bydd unrhyw ddatgeliadau eraill y bydd y brifysgol yn eu gwneud yn unol 芒 deddfwriaeth diogelu data, a bydd eich buddiannau a'ch hawliau yn cael eu hystyried yn
5.聽 Gwybodaeth bellach yn ymwneud 芒'ch data
Gwneud penderfyniadau trwy ddulliau awtomataidd, gan gynnwys proffilio
Gall y brifysgol wneud penderfyniadau awtomataidd mewn nifer cyfyngedig o amgylchiadau yn unig, fel rheol y rhai sy'n gysylltiedig 芒 statws asesu ffioedd, addasrwydd ar gyfer cymorth ariannol a maes dadansoddi dysgu. Os oes gennych unrhyw ymholiadau'n ymwneud 芒'r prosesau hyn, cysylltwch 芒'r Swyddog Diogelu Data.
Trosglwyddo i Wledydd Trydydd Parti y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (UE)
Er mwyn cyflawni dibenion prosesu eich data, efallai y bydd angen i ni rannu eich data gyda sefydliadau y tu allan i'r UE. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y brifysgol yn sicrhau bod mesurau diogelu priodol yn eu lle. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen trosglwyddiadau ar gyfer cyflawni'r聽 contract rhyngoch聽 chi a'r brifysgol a/neu fe'i cyflawnir gyda'ch cydsyniad.
Gwasanaethau trydydd parti
Gall y brifysgol ddefnyddio, o dan gontract a chytundeb, gyflenwyr neu broseswyr trydydd parti i ddarparu gwasanaethau penodol i staff a myfyrwyr, megis e-bost neu storio data. Bydd y gwasanaethau hyn yn cydymffurfio 芒'r GDPR a bydd data, fel rheol, yn cael eu prosesu o fewn yr UE. Yr un modd, gall y brifysgol neu sefydliadau allanol ddefnyddio trydydd parti i wneud arolygon neu waith arall a all olygu bod y trydydd part茂on hyn yn cael mynediad at eich data.
Eich hawliau
Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, ac i unioni, dileu, cyfyngu ar, a symud, eich gwybodaeth bersonol. Os ydych wedi cydsynio i Brifysgol 吃瓜群众 brosesu unrhyw ran o'ch data, yna mae gennych hawl hefyd i dynnu'r cydsyniad hwnnw'n 么l. Ewch i we-dudalennau Diogelu Data'r brifysgol i gael gwybodaeth bellach am eich hawliau.
Dylai unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau gael eu hanfon yn ysgrifenedig at Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol.
Diogelwch
Mae deddfwriaeth diogelu data yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Mae hynny'n golygu y caiff eich cyfrinachedd ei barchu, a chymerir pob cam priodol i atal mynediad heb awdurdod a datgelu gwybodaeth. Dim ond aelodau staff fydd angen mynd at rannau perthnasol eich gwybodaeth, neu eich holl wybodaeth, fydd yn cael eu hawdurdodi i wneud hynny. Bydd angen cyfrinair a chyfyngiadau diogelwch eraill i gael mynediad at wybodaeth amdanoch mewn ffurf electronig, a chaiff ffeiliau papur eu cadw mewn mannau diogel gyda mynediad atynt wedi'i reoli. Mae gwybodaeth bellach am y prosesau hyn i'w chael ym聽Mholisi Diogelwch Gwybodaeth y brifysgol.
Cadw gwybodaeth
Mae'r brifysgol yn cadw'r wybodaeth amdanoch yn unol ag amserlenni penodedig addysg uwch ar gadw gwybodaeth. Cedwir yn barhaol gofnod craidd sy'n dangos eich dyddiadau presenoldeb, manylion eich gradd neu gymhwyster arall neu ganlyniad arall. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn amserlen cadw gwybodaeth y brifysgol y gellir ei gweld yma.
Cwynion
Os ydych yn anhapus 芒'r ffordd y proseswyd eich gwybodaeth bersonol gellwch, yn y lle cyntaf, gysylltu 芒 Swyddog Diogelu Data'r brifysgol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.
Os byddwch yn dal yn anfodlon mae gennych hawl i wneud cais uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu 芒'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Y Comisiynydd Gwybodaeth 2il聽Lawr
T欧 Churchill Ffordd Churchill Caerdydd
CF10 2HH
Ff么n: 02920 678 400
Eich cyfrifoldebau
Mae gennych gyfrifoldeb i ddiweddaru eich manylion personol. Edrychwch ar聽Bolisi Diogelu Data聽y brifysgol am wybodaeth bellach.
Adolygwyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23
Ionawr 2023