Cynaliadwyedd ym maes Adeiladu
Rydym wrthi鈥檔 lleihau maint ystad y Brifysgol, ac yn creu cyfleoedd newydd i ymgorffori cynaliadwyedd yn ein gweledigaeth ddylunio. Wrth adnewyddu ein hadeiladau presennol, byddwn yn ystyried gwelliannau amgylcheddol a chost-effeithiol, ac yn eu gweithredu. 惭补别鈥檙 gwelliannau hyn yn cynnwys defnyddio systemau gwresogi ac oeri mwy effeithlon, cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac ailgylchu d诺r llwyd.
Mae cyfleuster ymchwil newydd yn cael ei sefydlu ar gyfer y Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol er mwyn cynorthwyo gyda鈥檙 gwaith o gyflawni鈥檙 . Bydd y cyfleuster hwn yn cael ei sefydlu yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes, sef canolfan ymchwil maes y Brifysgol. Nod y fenter hon yw datblygu prosesau biolegol carbon isel fel dewisiadau amgen yn hytrach na chynhyrchion confensiynol a phrosesau gweithgynhyrchu diwydiannol. Yn rhan o鈥檙 cytundeb ariannu, mae mesurau cynaliadwyedd ychwanegol yn cael eu cyflwyno. 惭补别鈥檙 mesurau hyn yn cynnwys gosod paneli solar ffotofoltaidd ar y to a chreu ardal blodau gwyllt.
惭补别鈥檙 yn ddatblygiad carbon isel newydd, sydd wedi鈥檌 gynllunio i ddarparu llefydd a chymorth busnes i denantiaid gan eu galluogi i arloesi a chynhyrchu ynni carbon isel er mwyn datgarboneiddio鈥檙 sector ynni yng ngogledd Cymru. Mae'r cynigion dylunio tirwedd ar gyfer project Egni (M-Sparc 2) yn rhoi gwelliannau bioamrywiaeth ar waith ac yn cyd-fynd 芒鈥檙 gofynion ariannu.
Gwastraff ym maes adeiladu
Cyfrifoldeb y contractwr yw unrhyw wastraff a gynhyrchir ganddo, ac mae hyn wedi'i ysgrifennu yn y dogfennau caffael. Mae pob contractwr sy'n gweithio i Brifysgol 吃瓜群众 yn cytuno i gael gwared ar unrhyw wastraff maent yn eu cynhyrchu yn unol 芒'r hierarchaeth gwastraff.