Yr Ardal Natur
Mae’r coetir hwn o fewn Parc y Coleg, sydd wedi’i leoli wrth droed Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol ³Ô¹ÏȺÖÚ, wedi cael trawsnewidiad cyffrous, sy’n cynnwys adfer a chynnal ecosystem fywiog i ddarparu rhywle i natur a phobl gydfodoli. Gwnaethpwyd gwaith sylweddol yn yr ardal, gyda thros 1500 o lwyni a choed brodorol, a thua 15,000 o fylbiau’n cael eu plannu i wella amrywiaeth a strwythur y coetir, gan sicrhau bod haenau gwahanol – canopi, isdyfiant, llwyni a fflora’r ddaear – yn gytbwys.
Cwblhawyd y cyfnod plannu yn 2024, ac mae bellach yn amser inni gamu'n ôl a chaniatáu i natur ddilyn ei chwrs. Wrth ichi ddarllen yr arwyddbost hwn, mae'r coetir yn aeddfedu, a gallwn arsylwi ar ymddangosiad cynefinoedd newydd a gobeithio dod o hyd i rywogaethau o anifeiliaid, planhigion a ffyngau sydd wedi cyrraedd yn ddiweddar. Yn yr un modd â phob ecosystem, mae'r coetir hwn yn newid yn gyson, gyda rhai rhywogaethau'n ffynnu wrth i rywogaethau eraill leihau mewn nifer, neu hyd yn oed ddiflannu'n gyfan gwbl. Mae hyn yn rhan o'r broses naturiol.
Rydym hefyd wedi gwneud ymdrechion i ddarparu lloches a chynefinoedd i anifeiliaid. Mae tai adar a blychau ystlumod wedi cael eu gosod, yn ogystal â mannau i anifeiliaid aeafgysgu, er mwyn cynnal amrywiaeth ehangach o bethau byw, gan wella bioamrywiaeth gyffredinol yr ardal.
Mae'r llwybrau i mewn ac o gwmpas y coetir yn darparu mynediad gwych i ni weld a mwynhau natur. Mae'r Ardal Natur yn darparu rhywle yng nghanol ein dinas i bawb ei fwynhau, sy’n adnodd addysgu, dysgu a gwirfoddoli gwych.
![]() |
Troglodytes
|
Quercus petraea
|
![]() |
![]() |
Pipistrellus pipistrellus
|
Turdus viscivorus
|
![]() |