Mae ein harbenigeddau ymchwil yn cynnwys Ynni, yr Amgylchedd a Bio-synhwyro (EEBG); Solar; M么r; Biosynhwyro; Synhwyro amgylcheddol; Sefydliad y Dyfodol Niwclear. Caiff arbenigedd yn y meysydd hynny ei ymgorffori yn ein gweithgareddau dysgu, gan roi llwybr uniongyrchol i'r myfyrwyr at yr ymchwil diweddaraf mewn Ynni Adnewyddadwy.
Ynni, yr Amgylchedd a Bio-synhwyro (EEBG)
Mae ymchwil yn EEBG yn canolbwyntio ar ddatblygu ffynonellau ynni carbon isel newydd (solar, m么r a niwclear) a synhwyro effeithiau biolegol ac amgylcheddol. Mae'r gr诺p yn datblygu rhwydweithiau synhwyrydd diwifr Internet of Things (IoT) ar gyfer problemau gwaith go iawn, fel monitro effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae Prifysgol 吃瓜群众 wedi gweld llwyddiant wrth dderbyn nifer o grantiau mawr, gan gynnwys trwy'r Comisiwn Ewropeaidd (e.e. project SUMCASTEC a gyllidir gan H2020 (www.sumcastec.eu), Llywodraeth Cymru (e.e. SPARC II) a llywodraeth y Deyrnas Unedig (e.e. EPSRC CDT mewn Dyfodol Ynni Niwclear). Mae'r gr诺p yn gweithio'n agos gyda'r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ym Mhrifysgol 吃瓜群众 ac mae myfyrwyr yn aml yn gweithio ar weithgareddau a them芒u ymchwil rhyngddisgyblaethol. Ymhlith y cydweithwyr ymchwil yn y Deyrnas Unedig mae Prifysgol Caergrawnt, Coleg Imperial Llundain, a Phrifysgolion Caerdydd, Abertawe a Manceinion. Mae gan y gr诺p gysylltiadau rhyngwladol hefyd yn yr Unol Daleithiau, Israel, Sbaen, Yr Almaen, Ffrainc, Brasil, Tsieina a Phortiwgal. Mae nifer o'n myfyrwyr hefyd wedi cymryd rhan mewn cyfnewidiadau ymchwil i'r Massachusetts Institute of Technology. Mae EEBG yn cynnwys pedwar labordy ac un sefydliad: y labordai solar, m么r, biosynhwyro a synhwyro amgylcheddol, a'r sefydliad dyfodol niwclear.
Solar
Tra bo cenedlaethau newydd o dechnolegau ffotofoltaidd yn rhoi addewid o gynhyrchu ynni is a phosibiliadau o integreiddio i adeiladu cymwysiadau integredig, neu ar gyfer cywain ynni ar gyfer pethau fel gwefru ffonau, mae sefydlogrwydd yn parhau i fod yn allweddol bwysig o ran masnacheiddio gan bod rhaid iddynt oroesi am dros 20 mlynedd yn yr awyr agored, a hynny heb gynnal a chadw. Mae Prifysgol 吃瓜群众 yn defnyddio technegau dadansoddi deunyddiau i astudio achosion methiant a phrofi cyflymedig i ragfynegi sefydlogrwydd yn y dyfodol. I gyflawni gwaith o'r fath, mae gan Brifysgol 吃瓜群众 uned o gyfarpar profi a meddalwedd dibynadwyedd pwrpasol i astudio dibynadwyedd a pherfformiad celloedd solar.
Mae Prifysgol 吃瓜群众 yn aelod o gonsortiwm SPARC II, project gwerth 拢7m a gyllidir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i ddatblygu them芒u newydd ym maes ymchwil ynni solar/ffotofoltaidd. Mae Prifysgol 吃瓜群众 hefyd yn gweithio'n agos gyda diwydiant yn y Deyrnas Unedig, yn arbennig ym maes celloedd ffotofoltaidd crynodedig. Defnyddir cyllid gan UKRI i astudio sut y gellir defnyddio opteg crynhowyr mawr i ffocysu golau hyd at 1000 gwaith ar gell solar lled-ddargludydd bach (llai nag 1 cm虏 fel rheol).
惭么谤&苍产蝉辫;&苍产蝉辫;
Rydym yn cynnal ystod eang o weithgareddau ymchwil ym maes ynni adnewyddadwy m么r, ac yn arwain y byd mewn meysydd penodol:
-
Rhyngweithio tonnau/cerrynt wrth asesu adnoddau a gweld beth yw eu nodweddion.
-
Effeithiau trosi ynni llanw ar ddeinameg gwaddod a morffodynameg.
-
Y cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig 芒 datblygu adnoddau ynni llanw llai egn茂ol.
Rydym yn arbenigo yn agweddau peirianneg cynhyrchu ynni carbon isel. Mae'r Gr诺p Amgylchedd Ynni a Bio-synhwyro yn canolbwyntio ar ddatblygu ffynonellau ynni carbon isel, yn ogystal 芒 synwyryddion sy'n helpu i ddeall effeithiau biolegol ac amgylcheddol cynhyrchu ynni solar a m么r.
Mae llawer o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid yn tystio i'n rhagoriaeth ymchwil, yn ogystal 芒'n hymwneud 芒 llawer o brojectau ymchwil Ewropeaidd ac UKRI, ac arweinyddiaeth mewn llawer o sefydliadau a chynadleddau rhyngwladol sy'n edrych ar ynni adnewyddadwy o'r m么r; ymhlith y rhain mae Cyfarfod Gwyddorau Eigion yr American Geophysical Union a Chynulliad Cyffredinol yr European Geosciences Union.
Biosynhwyro
Rydym yn datblygu technolegau labordy-ar-sglodyn ar gyfer diagnosteg a thriniaeth celloedd biolegol. Yn arbennig, mae ein grwpiau'n ymwneud ag integreiddio microelectroneg amledd uchel (Bi-CMOS), microhylifeg a thechnolegau microddelweddu ar un sglodyn. Rhoddir hyn ar waith ym maes didoli a niwtraleiddio b么n-gelloedd canser. Y syniad yw integreiddio'r dechnoleg i chwiliedyddion electrolawfeddygol ar gyfer canser a meddygaeth adfywiol mewn cydweithrediad ag arweinydd ym maes diwydiant technoleg llawfeddygaeth endosgopi, megis Creo Medical Ltd. ().
Synhwyro amgylcheddol
Rydym yn gweithio ar synwyryddion amser real pwrpasol ar gyfer monitro lefelau llygredd, amodau amgylcheddol a phroseswyr gweithgynhyrchu. Mae ein gr诺p ymchwil wedi cyflwyno dyfais tracio-radio hunangynhaliol gyntaf y byd y gellir ei chysylltu wrth wenyn m锚l a chacwn (). Mae teclynnau o'r fath yn defnyddio'r p诺er adain a gynhyrchir gan wenyn m锚l a chacwn, p诺er y gellir ei drawsnewid yn signal addas i'w ganfod gan ddronau sy'n hedfan uwchlaw'r pryfyn targed. Mae ymchwilwyr hefyd yn gweithio gyda'r sector technoleg amaeth i ddatblygu atebion i gefnogi integreiddio rhwydweithiau synhwyrydd diwifr Internet of Things mewn cychod gwenyn, ffermydd neu dai gwydr clyfar. Bydd byrddau Low Range Wide Area Network (LoRaWAN) yn cael eu defnyddio ar y cyd 芒 synwyryddion Radio Frequency Identification (RFID) i fonitro'n annibynnol dymheredd, lefel golau, lleithder, CO2, delweddu is-goch cychod gwenyn a signalau fibroacwstig.
Sefydliad y Dyfodol Niwclear
Rydym hefyd yn gartref i Sefydliad y Dyfodol Niwclear. Gyda phrojectau dadgomisiynu niwclear a phrojectau adeiladu newydd niwclear gerllaw inni, a nifer cynyddol o fusnesau o'r gadwyn cyflenwi niwclear yn dod yn weithredol yn yr ardal, rydym yn canolbwyntio ar dechnolegau cynhyrchu ynni niwclear presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg, yn cynnwys adweithyddion d诺r gwasgeddedig (PWR), (Uwch) adweithyddion d诺r berw (ABWR) ac adweithyddion modiwlar bach (SMR). Mae ein hacademyddion yn helpu i ddatblygu cenedlaethau'r dyfodol o dechnoleg adweithyddion d诺r berw.
Mae arbenigedd niwclear a gallu academaidd ym Mhrifysgol 吃瓜群众 yn ehangu'n gyflym gyda phenodiad 's锚r' ymchwil ryngwladol, ynghyd 芒'u timau ymchwil cefnogol, a ariennir gan raglen S锚r Cymru Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.