RHEOLI NEWID
Mae'r Brifysgol yn newid drwy’r amser. Mae’n newid ei ffyrdd o ddysgu, yr hyn y mae'n ymchwilio iddo a sut mae’n gwneud hynny, sut mae'n gwneud pethau, a’r hyn mae'n ei wneud. Mae newid yn digwydd yn lleol ac yn sefydliadol ac fel popeth arall, mae angen ei reoli i sicrhau ein bod yn deall, yn rheoli ac yn lliniaru’r risgiau i bobl a'r amgylchedd.
Pam mae Newidiadau Sefydliadol a Gweithredol yn Peri Bryder o ran Iechyd a Diogelwch?
Mae rheoli newid yn agwedd hollbwysig ar system iechyd a diogelwch cyffredinol dda. Gall newid ddwyn peryglon newydd yn ei sgil nad oeddent yn bresennol o’r blaen, mae’n gallu newid deinameg y gweithle a dylanwadu’n gadarnhaol ac yn negyddol ar ymddygiadau. Gallai’r cyfan effeithio’n andwyol ar addasrwydd y mesurau lliniaru risg presennol.
Wrth gwrs, mae rheoli newid yn weithgaredd cyffredin i lawer o’r Brifysgol, rydym yn aml yn newid prosesau, dulliau ymchwil a gweithgareddau gwaith maes, ac rydym yn gyfarwydd ag ailwerthuso’r risg cyfredol ac asesu risgiau newydd. Fodd bynnag, weithiau mae’r newid yn fwy sylfaenol, yn enwedig o ran newidiadau sefydliadol mawr a chyflwyno gweithgarwch ymchwil cwbl newydd a pheryglus. Yn y cyfnodau hynny, mae'n bwysig nodi’r 'risg' o ran iechyd a diogelwch a gwerthuso’r newid a'i effaith a'u rheoli'n ofalus.
Weithiau nid yw rhai newidiadau sefydliadol, megis newid y lefelau staffio, cyfuno ysgolion ac adrannau, a newidiadau i rolau a chyfrifoldebau, yn cael eu dadansoddi a'u rheoli cystal â newidiadau i brosesau neu newidiadau 'ffisegol'. Gall newidiadau trefniadol a rheolaethol beri effaith andwyol i ddiogelwch os na chânt eu dyfeisio neu eu gweithredu'n ddigonol. Gall hyd yn oed y newidiadau lleiaf i drefniadau sefydliadol beri effeithiau andwyol sylweddol i reolaeth iechyd a diogelwch a bod yn agored i risg ac mae gan bawb rôl i'w chwarae i sicrhau na fydd hynny’n digwydd.
Pobl a Gweithgareddau
Mae pobl yn ganolog i reoli risg yn llwyddiannus, yn enwedig yn ystod newid pan allwn golli golwg ar ble y cedwir gwybodaeth a gweithdrefnau a phwy wnaeth beth. Yn bwysig ddigon, mae'n bwysig cofio y bydd gan y rhan fwyaf o staff sy'n gadael y Brifysgol ddealltwriaeth bwysig ac unigryw weithiau o sut mae 'pethau'n gweithio' a sut mae rheoli risg. Pan fo pobl yn gadael mae risg gwirioneddol y bydd gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o risgiau penodol yn mynd gyda nhw: sy’n golygu y gallai rywbeth fynd o'i le yn y dyfodol, oherwydd ‘doedd dim sylweddolaeth erioed bod y risg yn bodoli' neu nid yw bellach yn cael ei reoli'n dda. Mae hynny’n ddifrifol iawn mewn meysydd arbenigol, megis y rhai sy'n cael eu staffio gan ymchwilwyr neu beirianwyr annibynnol.
Nid mater o newid personél yn unig yw newid, wrth reswm, yn aml mae hefyd yn ymwneud â newid o ran: gweithgareddau, llefydd, systemau a chyfarpar, trefnu gwaith trwy gontractau allanol a newidiadau cyffredinol i’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau. Gallai pob newid ddylanwadu ar y posibilrwydd o risg ac mae'n bwysig ein bod yn rheoli newid ac yn ein sicrhau ein hunain ein bod hefyd yn rheoli’r effeithiau andwyol posibl.
Effeithiau Personol
Mae cyngor ynghylch yr effaith bersonol ar y staff a’r gefnogaeth sydd ar gael i’r staff a’r rheolwyr i’w gael ar wefan yr Adnoddau Dynol.
Beth sydd angen inni ei wneud?
Wrth inni baratoi ac ystyried newid ac wrth ei weithredu:
Gwybodaeth Ddefnyddiol
• Ystyriaethau Iechyd a Diogelwch Eraill