Mae "pwll bach Darwin" yn dangos sut y gall rhywogaethau newydd ymddangos heb wahanu daearyddol
Llyn MassokoMae pysgod cichlid o grater folcanig wedi eu dal yn y weithred o ffurfio rhywogaeth newydd yn yr un ardal ddaearyddol
Ydy'n wir y gall rhywogaeth newydd esblygu os nad oes ffin ffisegol i ysgogi gwahanu genetig? Ymddengys bod tystiolaeth ffisegol a genomig o grater folcanig Llyn Massoko sy'n 700 medr ar draws wedi cofnodi'r broses wrth iddi ddigwydd.
Gall canlyniadau astudio genom cyfan 146 o bysgod bach mewn llyn bychan yn Affrica helpu i ddatrys dadl sydd yn mynd ymlaen ers degawdau ymysg biolegwyr esblygol. Ydy'n wir y gall rhywogaeth newydd esblygu os nad oes ffin ffisegol i ysgogi gwahanu genetig? Ac, os yw'n bosib, beth yw'r nodweddion genetig a ffisegol sy'n gyrru'r math yma o esblygu: atyniad rhywiol, neu ffordd o fyw neu ddiet arbennig, neu ffactorau ecolegol eraill?
"Mae'r syniad o ffurfio rhywogaeth newydd yn yr un ardal ddaearyddol wedi bod yn bwnc llosg ym maes esblygiad ers talwm" meddai'r uwch awdur, yr Athro George Turner o'r Ysgol Gwyddorau Biolegol, Prifysgol ³Ô¹ÏȺÖÚ. "Bu’n anodd profi y gall rhywogaethau newydd godi pan fydd amrywiadau genetig yn cael eu cyfnewid yn hawdd rhwng y ddau grŵp sy'n esblygu. Ond rydym wedi dal y dull hwn o esblygu fel mae'n digwydd wrth adnabod dwy ffurf wahanol o bysgod cichlid sy'n esblygu'n wahanol o fewn llyn sydd yn 700 medr yn unig ar draws."
Mae pysgod cichlid yn fodel esblygu gwerthfawr. Mewn llyn cyfagos, Llyn Malawi, daethpwyd o hyd i rai cannoedd o rywogaethau cichlid, sy'n wahanol o ran eu maint, eu siâp, eu lliw, eu harferion bwydo a'u dewisiadau ecolegol megis byw yn agos i wyneb y llyn neu ar y gwaelod. Oherwydd yr amrywiaeth enfawr hwn gelwir y llyn yn "Pwll Darwin". Mae Llyn Massoko i'r gwrthwyneb yn "bwll bach Darwin": lle llawer symlach gyda llawer llai o rywogaethau a llai o ffactorau i yrru ffurfiant rhywogaethau newydd.
Mae Pysgol cichlid benthig yn byw yn agos i waelod y llyn lle mae'r lefelau golau'n llawer is.Yn y llyn, darganfu ymchwilwyr ddwy ffurf ar rywogaeth gyffredin o bysgod cichlid a gwahaniaethau sylweddol rhyngddynt (ecomorffau). Mae gan un ecomorff - a adwaenir fel pysgodyn cichlid y glannau – bysgod gwryw melynwyrdd ac mae'n byw yn agos i lannau'r llyn. Mae gan y ffurf arall - benthig - wrywod glasddu ac mae'n byw yn agos i waelod y llyn lle mae'r lefelau golau'n llawer is. Mae llawer o wahaniaethau mesuradwy eraill rhwng yr ecomorffau, er enghraifft, o ran siâp y corff, y genau a'r diet.
Adlewyrchir y gwahaniaethau hyn yn y gwahaniaethau genetig a welwyd pan luniwyd dilyniant genom cyfan y ddau ecomorff a'u cymharu. Mae'r rhan fwyaf o'r newid genetig arwyddocaol wedi digwydd mewn nifer fach o ardaloedd ar y genom sy'n gysylltiedig â golwg (megis rhodopsin a genynnau eraill sy'n gysylltiedig â'r gwyll), signalu hormonau, maint a siâp.
"Un o nodweddion mwyaf trawiadol y newid hwn yw ei bod yn effeithio ar lai nag un y cant o'r genom. Tueddid i gredu o'r blaen fod ffurfio rhywogaeth newydd yn golygu newidiadau ar draws y genom cyfan" meddai Dr Milan Malinsky, awdur cyntaf o Sefydliad Sanger Ymddiriedolaeth Wellcome, a Sefydliad Gurdon, Prifysgol Caergrawnt. "Ond yn yr enghraifft hon o ffurfio rhywogaeth newydd yn yr un ardal ddaearyddol, gwelwn fod y gwahaniaethau'n gyfyngedig i ardaloedd penodol o'r genom - a elwir yn ynysoedd genomig - sy'n gysylltiedig â nodweddion penodol."
Yr hyn sy'n anodd ei ddeall yw nad oes un ffactor ar ei ben ei hun - genetig neu ffisegol - i weld yn gwahaniaethu rhwng y ddau forff: er bod yn well ganddynt fyw ar wahanol ddyfnderoedd, gwelir y pysgod melyn a glas gyda'i gilydd yn aml. Un model theoretig ar gyfer ffurfio rhywogaethau newydd yn yr un ardal ddaearyddol yw bod dewis rhywiol yn gallu atgyfnerthu gwahaniaethau trwy gyfrwng dewis o gymar.
Mae pysgodyn cichlid y glannau yn byw yn agos i lannau'r llyn."Mae'n ymddangos ein bod yn gweld cyfuniad cymhleth o wahaniaethu ecolegol a dewisiadau o ran cymar sydd gyda'i gilydd wedi galluogi'r ddau ecomorff i dyfu ar wahân er gwaethaf peth cyfnewid genetig" meddai Dr Martin Genner, uwch awdur o Ysgol Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Bryste. "Gallwn ddysgu llawer gan y pysgod hyn."
Yr hyn sy'n gyffrous yw y bydd y canfyddiadau hyn mewn system syml yn berthnasol i ddeall y prosesau esblygu llawer cyfoethocach a mwy trawiadol yn Llyn Malawi ac yn llynnoedd mawr eraill Affrica, ac yn wir y tu hwnt i hynny.
"Gwelir yr un genynnau mewn sawl rhywogaeth, mewn pysgod ac mewn fertebratau eraill hefyd" meddai Dr Richard Durbin, uwch awdur o Sefydliad Sanger. “Mae'n debygol felly fod y mecanweithiau sydd ar waith yn Llyn Massoko wedi bod yn rhan o'r broses ffurfio rhywogaethau newydd ehangach trwy gydol hanes, gan yrru math o esblygiad lle gall rhywogaethau ymwahanu'n enetig i fanteisio ar gyfleoedd ecolegol newydd hyd yn oed pan nad oes gwahanu ffisegol."
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2015