Dibyniaeth y Deyrnas Unedig ar fewnforio pren yn bygwth nodau sero net, yn 么l ymchwil newydd
Mae astudiaeth newydd wedi rhybuddio y gallai dibyniaeth drom y Deyrnas Unedig ar fewnforio pren danseilio ei strategaeth sero net a chynyddu allyriadau carbon byd-eang.
Yn y papur, sydd wedi ei gyhoeddi yn , mae ymchwilwyr Prifysgol 吃瓜群众 yn amlygu'r angen dybryd am ehangu coedwigaeth ddomestig a gwell rheolaeth i ddiwallu鈥檙 galw cynyddol am bren mewn ffordd gynaliadwy.
Mae pren yn ddewis amgen carbon isel allweddol yn lle dur, concrit, a phlastigion, ond y Deyrnas Unedig yw鈥檙 ail fewnforiwr pren mwyaf yn y byd, ac mae ganddi鈥檙 gorchudd coedwig isaf (13%) o unrhyw wlad yn Ewrop.
Gyda dim ond 20% o'r galw鈥檔 cael ei ddiwallu gan goed cartref, mae'r wlad yn wynebu risgiau o brisiau byd-eang cyfnewidiol a phryderon hirdymor ynghylch 鈥渄iogelwch pren鈥.
Canfu'r astudiaeth hefyd y gallai dibynnu ar goedwigoedd boreal gogleddol a gynaeafwyd yn ddwys 鈥 sy'n storio llawer iawn o garbon 鈥 leihau'r buddion hinsawdd o ddefnyddio pren wrth adeiladu.
Gallai cynnydd yn faint o goed caiff eu torri yn y coedwigoedd hyn ryddhau mwy o garbon nag a arbedir drwy ddefnyddio pren yn lle deunyddiau eraill.
Er mwyn ymchwilio i'r her hon, bu ymchwilwyr o Brifysgol 吃瓜群众 yn gweithio ar y cyd 芒 Woodknowledge Wales, sef Cymdeithas Budd Cymunedol annibynnol er lles y cyhoedd, sy'n hyrwyddo coedwigaeth a phren cynaliadwy ac arferion adeiladu adfywiol. Aethant ati i ddatblygu fframwaith asesiad blaengar ar gylch bywyd i asesu effaith hirdymor gwahanol strategaethau coedwigaeth ar yr hinsawdd, ac maent yn galw am ddull newydd o gynhyrchu pren domestig cynaliadwy.
Mae eu dadansoddiad yn dangos y gallai cynyddu cynhyrchiant pren domestig yn sylweddol 鈥 trwy ehangu coedwigaeth a gwell rheolaeth 鈥 ddiwallu鈥檙 galw cynyddol am bren wrth barhau i gefnogi nodau hinsawdd. Fodd bynnag, bydd angen newidiadau mawr mewn polisi defnydd tir ac arferion coedwigaeth.
Er mwyn diwallu cynnydd bychan blynyddol yn y galw am bren (1.1% y flwyddyn), byddai angen ehangu ardaloedd coedwig cynhyrchiol 50% dros 50 mlynedd.
Byddai ymagwedd fwy uchelgeisiol 鈥 dyblu arwynebedd coedwig cynhyrchiol a newidiadau rheoli i hybu cyfraddau twf coed 33% 鈥 yn sicrhau 175% yn fwy o fuddion hinsawdd.
Fodd bynnag, os bydd cynnydd yn y galw am bren yn fwy (2.3% y flwyddyn), dim ond cyfuniad o ddyblu arwynebedd coedwigoedd a hybu cyfraddau twf coed 33% a fyddai鈥檔 sicrhau manteision hirdymor i鈥檙 hinsawdd.

Dywedodd yr Athro John Healey o Brifysgol 吃瓜群众, uwch awdur yr astudiaeth,
鈥淢ae ein hastudiaeth yn amlygu tair her sylweddol i goedwigaeth y Deyrnas Unedig. Y cyntaf yw ehangu coedwigoedd cynhyrchiol. Mae ehangu coedwigoedd conwydd wedi arafu ers 30 mlynedd, a disgwylir i gyflenwad pren y gellir ei gynaeafu ostwng ar 么l 2039. Bydd gwrthdroi hyn yn gofyn inni ailfeddwl am flaenoriaethau defnydd tir.
鈥淵r ail yw gwella rheolaeth coedwigoedd: Rhaid cynnal cynhyrchedd uwch, er gwaethaf bygythiadau cynyddol gan bl芒u, afiechyd a sychder. Y trydydd yw cynyddu effeithlonrwydd defnydd pren: Bydd prosesu pren heb fawr o wastraff, ei ailddefnyddio, a mabwysiadu egwyddorion economi gylchol yn hollbwysig.鈥
Ychwanegodd, 鈥淢ae angen diwygio polisi鈥檔 sylweddol i fodloni鈥檙 heriau hyn. Er mwyn sicrhau bod y defnydd o bren yn lle deunyddiau eraill yn parhau i fod yn ddatrysiad sero net cynaliadwy, rhaid i鈥檙 Deyrnas Unedig gyfyngu ar y cynnydd yn ei dibyniaeth ar fewnforio pren er mwyn osgoi shifft mewn allyriadau carbon a cholli bioamrywiaeth dramor. Er mwyn galluogi hyn, rhaid diwygio'r strategaeth defnydd tir i alluogi'r ehangiad coedwigaeth gofynnol a'r cynnydd mewn cynhyrchedd.
鈥淢ae tyfu mwy o goed ein hunain yn hanfodol 鈥 nid yn unig o ran targedau sero net y Deyrnas Unedig, ond hefyd o ran y frwydr fyd-eang yn erbyn newid hinsawdd.鈥

Dywedodd Gary Newman, Prif Weithredwr Woodknowledge Wales, 鈥淢ae Woodknowledge Wales yn falch iawn o fod yn gysylltiedig 芒鈥檙 papur pwysig hwn. Mae鈥檔 gwneud galwad gref i weithredu dros strategaeth blannu hirdymor, gwell cynhyrchedd coedwigoedd a defnydd effeithlon o bren.鈥