Medru a'r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol yn cyflwyno cwrs XRealiti yn Airbus
Mae t卯m Canolfan Ragoriaeth Prosesu Signalau Digidol Prifysgol 吃瓜群众, yn Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig y Brifysgol, wedi cyflwyno cwrs sgiliau newydd i weithwyr Airbus, fel rhan o Raglen Medru newydd y Brifysgol.
Ffatri sgiliau yw Medru, partneriaeth rhwng Prifysgol 吃瓜群众, Coleg Cambria a鈥檙 Brifysgol Agored yng Nghymru, sy鈥檔 cynnig sylfaen datblygu sgiliau i fusnesau lleol yn nisgyblaethau STEM ac, yn y cam cyntaf, yn benodol o amgylch .
Cyflwynodd Dr Panagiotis Ritsos a Dr Peter Butcher o Labordy Amgylcheddau Trochol y Brifysgol, gwrs ar XRealiti i d卯m datblygu a chynhyrchu sydd gyda鈥檙 gorau yn y byd yn Airbus, y cwmni awyrennaeth a gofod mwyaf yn Ewrop, yn ei safle ym Mrychdyn, sir Fflint. Mae'r cwrs hwn yn un o weithgareddau Coleg y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol, rhan o'r Ganolfan Ragoriaeth sy'n darparu cyrsiau hyfforddi a seminarau galwedigaethol, yn ogystal 芒 rhaglenni 么l-radd hyfforddedig, ymchwil, a rhaglenni isradd hyfforddedig.
Cynigiodd y cwrs, a gyflwynwyd dros bedair sesiwn dwy awr, gyflwyniad i Rithrealiti, Realiti Estynedig a Realiti Cymysg (VR, AR, MR - a elwir gyda鈥檌 gilydd yn XR), a thrafod rhai o heriau鈥檙 paradeimau hyn, ynghyd ag enghreifftiau posib o鈥檜 defnydd i鈥檙 sector awyrofod. Cyflwynwyd hefyd rai o arddangosiadau Prifysgol 吃瓜群众 mewn . Cynigir cwrs tebyg at lefel MSc, trwy gyfrwng yr MSc mewn Cyfrifiadureg Uwch, lle gall myfyrwyr wneud ymchwil ar gyfer traethawd hir MSc mewn XR gydag academyddion yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.

Roedd yn bleser cyflwyno鈥檙 cwrs hwn yn Airbus, cwmni sydd wedi bod 芒 diddordeb mawr mewn defnyddio technolegau XR ar gyfer gwahanol gamau o鈥檜 gweithrediadau. Mae gan Airbus hanes hir o archwilio i'r defnydd o Realiti Estynedig, yn arbennig. Gyda鈥檙 diddordeb presennol mewn cysyniadau fel Gefeilliaid Digidol ar gyfer hyfforddi ac efelychu, rydym yn hyderus bod y cwrs wedi darparu sylfaen gref yn tanategu鈥檙 cymwysiadau hyn.
Roedd y cyfranogwyr yn awyddus i ofyn cwestiynau diddorol iawn, a chawsom gyfle i egluro sut y gall deallusrwydd artiffisial (AI), rhwydweithiau鈥檙 dyfodol megis 5G, a datblygiadau diweddar mewn rhyngwynebau rhyngweithio dynol-gyfrifiadurol hwyluso twf pellach mewn defnyddio XR ym maes awyrofod. Roedd yn bleser cyflwyno鈥檙 cwrs hwn, ac rydym eisoes yn edrych ymlaen at y tro nesaf!
Cawsom gyfle i arddangos rhai o鈥檔 prototeipiau blaengar a adeiladwyd gan ddefnyddio XR ar y We, trwy arddangosiadau amser real gyda Realiti Cymysg HoloLens 2 Microsoft a鈥檔 fframwaith Dadansoddeg Drochol, . Yn ogystal, cafodd y cyfranogwyr gyfle i ddatblygu prototeipiau sylfaenol, gan ddefnyddio blwch tywod ar-lein a fframweithiau Gwe a . Roedd yn gyffrous gweld pobl yn dod i ddeall y gweithgareddau hyn ac yn datblygu rhywbeth mewn sesiwn sengl, gyda chymorth uniongyrchedd y We.
Dywedodd Dr Daniel Roberts, Swyddog Cyswllt yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ar gyfer Medru, 鈥淢ae Medru yn cynnig cyfle gwych i weithio gyda busnes i lenwi bylchau sgiliau mewn diwydiant, a hynny ar ystod o wahanol lefelau. Mae dysgwyr sy'n cymryd rhan yng nghyrsiau Medru yn paratoi ar gyfer Ffatr茂oedd Clyfar y dyfodol, ac mae XR wedi cael ei nodi fel maes sydd o ddiddordeb gan Airbus i鈥檞 ddatblygu. Trwy arddangosiadau amser real, cafodd dysgwyr o Airbus gyfle i weld sut y gallai technolegau XR, fel HoloLens 2 Microsoft, wella'r amgylchedd gwaith a sut y gallai defnyddio technolegau o'r fath gynorthwyo 芒 phrosesau gweithgynhyrchu.鈥
Ychwanegodd Dr Iestyn Pierce, Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig 鈥淢ae鈥檔 wych gweld y buddion y mae staff yr ysgol yn eu cyflwyno i ddiwydiant trwy Goleg y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol a Medru.鈥
Dywedodd Yr Athro Jianming Tang, Cyfarwyddwr y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol: 鈥淢ae鈥檙 cwrs yn ddechrau rhagorol i gyfres cyrsiau hyfforddi鈥檙 Ganolfan Prosesu Signalau Digidol. Trwy lawn ddefnyddio arbenigedd y Ganolfan, sydd gyda鈥檙 gorau yn y byd mewn prosesu signalau digidol, arloesi technegol blaengar a chyfleusterau arbrofol unigryw, mae'r Ganolfan yn gweithio'n galed i ddarparu mwy o gyrsiau hyfforddi yn y dyfodol agos i roi gwell gwasanaeth byth i鈥檙 gymuned鈥.
Fel un o weithwyr Airbus roedd y cwrs yn werthfawr iawn. Ymdriniwyd 芒鈥檙 pynciau mewn ffordd a oedd yn addas i bawb, beth bynnag eu cefndir/gwybodaeth flaenorol o XR, gydag elfennau rhyngweithiol hefyd.