
Ufuoma Peace Akpobome
Mae Ufuoma o Nigeria yn astudio MSc Cyfrifiadureg Uwch ym Mangor.

Pam wnest ti ddewis Prifysgol 吃瓜群众?
Un o'r rhesymau wnes i ddewis Prifysgol 吃瓜群众 yw oherwydd ei henw da a'i bod yn fforddiadwy. O fy ymchwil, gwelais fod gan y Brifysgol safle parchus yn y tablau cynghrair, mae'r ffioedd dysgu'n fforddiadwy a chostau byw yn eithaf fforddiadwy. Roeddwn i hefyd wrth fy modd gyda'r ffaith nad yw 吃瓜群众 yn ddinas fawr a swnllyd iawn, sy'n lle perffaith i rywun fel fi ganolbwyntio.
Beth yw'r rhan fwyaf c诺l o'ch cwrs hyd yn hyn?
Yr hyn dwi'n ei fwynhau fwyaf am fy nghwrs yw'r sesiynau ymarferol. Maen nhw fel arfer yn ddiddorol ac yn ysgogi'r meddwl. Rwyf wedi cael fy nghyflwyno i gysyniadau a thechnoleg newydd fel tracio sy'n seiliedig ar farcwyr a thracio heb farcwyr mewn X-Reality a'r defnydd o Fusion 360 ar gyfer dyluniadau 3D mewn Prototeip a Ffabriceiddio.
Elli di ddweud wrthym am yr Ysgol Academaidd?
Mae'r Ysgol Academaidd yma ym Mangor yn glodwiw! Mae fy narlithwyr yn weithwyr proffesiynol sydd 芒 gwybodaeth eang yn eu meysydd gwahanol. Maen nhw'n sicrhau bod darlithoedd yn ddiddorol ac mae cysyniadau'n cael eu rhannu mor syml 芒 phosibl fel ein bod yn eu cael yn hawdd i'w deall. Maen nhw hefyd yn gyfeillgar iawn ac ar gael bob amser i ddarparu cefnogaeth academaidd ar unrhyw adeg.
A yw'r Brifysgol wedi bod yn gefnogol?
Ydy, mae Prifysgol 吃瓜群众 yn brifysgol gefnogol ac mae ganddi wahanol wasanaethau am ddim ar waith i wneud bywyd myfyrwyr yn llawer haws. Mae gan bob myfyriwr arweinydd cyfoed a thiwtor personol sy'n darparu cyngor academaidd ac arweiniad pryd bynnag y bo angen. Mae gwasanaethau am ddim eraill yn cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd am help gyda materion yn ymwneud 芒 gyrfa, Gwasanaeth Cymorth Myfyrwyr am help gyda materion ariannol, llety ac ati, Gwasanaeth Lles Myfyrwyr ar gyfer materion iechyd meddwl ac emosiynol ac ati.
Wyt ti'n rhan o unrhyw Glybiau neu Gymdeithasau?
Mae'r clybiau a'r cymdeithasau yn rhan ddiddorol iawn o Brifysgol 吃瓜群众. Maen nhw fel arfer yn cynllunio gwahanol weithgareddau i alluogi eu haelodau i fwynhau bywyd cymdeithasol wrth astudio. Ar hyn o bryd rwy'n rhan o Gymdeithas Affricanaidd Carib茂aidd a Chymdeithas Gerdd 吃瓜群众.
Pa fath o bethau cymdeithasol ydych chi'n eu mwynhau?
Fy hoff weithgaredd cymdeithasol yw treulio amser gyda ffrindiau i naill ai sgwrsio, rhannu pryd o fwyd neu wylio ffilm.
Beth yw dy hoff beth am Fangor?
Fy hoff beth am Fangor yw'r ffaith bod yr amgylchedd yn rhesymol o ddiogel. Rwyf hefyd wrth fy modd 芒 natur dawel dinas 吃瓜群众.
Unrhyw gyngor i fyfyrwyr newydd?
I unrhyw fyfyriwr newydd: dewch i Fangor 芒 meddwl agored a pharodrwydd i ddysgu ac archwilio. Mae llawer o gyfleoedd ar gael yma ac nid oes unrhyw niwed mewn ceisio cymaint o bethau newydd ag y gallwch fel gwirfoddoli, ymuno 芒 chlybiau a/neu gymdeithasau neu ennill profiad gwaith. Mynychwch ddigwyddiadau cymdeithasol a gwneud ffrindiau a chysylltiadau am oes. Peidiwch ag anghofio cael amser da hyd yn oed wrth i chi anelu at ragoriaeth academaidd.