
Rhwng 12:00 a 18:00, cyflwynwyd amrywiaeth gyfoethog o ymchwil o wahanol feysydd gan gynnwys ieithoedd a llenyddiaeth, addysg a dulliau addysgu, busnes a thechnoleg, hanes ac astudiaethau diwylliannol, athroniaeth a seicoleg, cymdeithaseg a heriau cymdeithasol, a llenyddiaeth greadigol. Roedd modd mynychu鈥檙 gynhadledd wyneb yn wyneb neu ar-lein, gyda theuluoedd hefyd yn cael eu croesawu鈥檔 gynnes i wylio.
Traddodwyd y ddarlith gyweirnod gan Dr Martina Feilzer, Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, a oedd yn sesiwn ysbrydoledig ac a osododd y naws ar gyfer diwrnod o drafodaethau adeiladol a bywiog.

Wrth adlewyrchu ar y diwrnod, dywedodd Alicia Edwards, ymchwilydd PhD mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ac un o gyd-drefnwyr y gynhadledd:
鈥淩oedd cynhadledd eleni鈥檔 llwyddiant ysgubol. Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda Holly, Ricardo a Rifah 鈥 gyda phawb wedi cyfrannu鈥檔 aruthrol. Trwy fod yn rhan o鈥檙 pwyllgor eleni, cefais weld faint o waith sy鈥檔 mynd i drefnu digwyddiad o鈥檙 fath a chael cyfle i gadeirio sesiynau 鈥 sgiliau hynod werthfawr y byddaf yn eu defnyddio yn y dyfodol.鈥
Mae Ysgol Hanes, y Gyfraith a鈥檙 Gwyddorau Cymdeithas yn estyn llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran ac am gynhadledd lwyddiannus a oedd yn tystio i gryfder ac ehangder ymchwil 么l-raddedig ym Mhrifysgol 吃瓜群众.