
Ganwyd Dr Kaposi ym 1932 i rieni Iddewig a sosialaidd yn Hwngari. Goroesodd arswyd ghetto Debrecen a鈥檙 gwersylloedd llafur gorfodol yn Awstria, gan golli hanner ei theulu yn ystod yr Holocost. Ar 么l y rhyfel ac o dan reolaeth Stalin, llwyddodd i ffoi i Loegr yn dilyn Gwrthryfel 1956. Dros y degawdau, daeth yn beiriannydd arloesol, yn addysgwr ac yn awdur, ac yn 2021 cafodd MBE am ei gwasanaeth i Addysg ac Ymwybyddiaeth o鈥檙 Holocost.
Cynhaliwyd y digwyddiad mewn cydweithrediad 芒鈥檙 Holocaust Educational Trust (HET), a chafwyd mewnwelediadau lu i'w gwaith cynharach, Yellow Star-Red Star, yn ogystal 芒 chip ar y llyfr newydd sydd ar y ffordd, Harmage and Hope: (An)ecdotes on Exclusion, Prejudice, and Harm, a gyd-awdurodd gyda鈥檙 Athro Dr Anja Ballis (Prifysgol Ludwig Maximilian Munich) a鈥檙 Athro Ian Pyle (Prifysgol Aberystwyth). Mae鈥檙 llyfr yn archwilio effaith anghyfiawnder systemig, gwrthsemitiaeth, Islamoffobia a homoffobia drwy lens rhyngddisgyblaethol.
Mae鈥檙 cysyniad o 'harmage' 鈥 term newydd a grewyd gan yr awduron 鈥 yn disgrifio鈥檙 niwed cronnus sy鈥檔 deillio o wahaniaethu ac eithrio. Mae鈥檙 '(an)ecdotes' yn naratifau personol grymus sy鈥檔 cysylltu profiadau hanesyddol o ddioddefaint 芒鈥檙 anghyfiawnder sy鈥檔 parhau heddiw. Mae鈥檙 dull yn ceisio ysbrydoli myfyrdod ystyrlon, deialog a gweithredu, gan gynnwys adnoddau addysgol ac offerynnau i ddeall niwed mewn cymdeithas. Bydd y llyfr yn cael ei lansio mewn cynhadledd ryngwladol i addysgwyr ym M眉nster, Yr Almaen, ym mis Tachwedd 2025.
Wrth fyfyrio ar y sgwrs, dywedodd Dr Gareth Evans-Jones, Darlithydd mewn Athroniaeth a Chrefydd a chydlynydd y modiwl Iddewiaeth yn y Byd Modern:
鈥淩oedd hwn yn brofiad cwbl unigryw i鈥檔 myfyrwyr 鈥 yn ddwys o ran emosiwn, yn gyfoethog yn ddeallusol, ac yn hynod bwysig o ran moeseg. Mae dysgu鈥檔 uniongyrchol gan rywun a oroesodd un o gyfnodau tywyllaf hanes dynol, ac sydd hyd heddiw yn llunio dyfodol addysg a chyfiawnder, yn brofiad a fydd yn aros gyda ni. Dyma鈥檙 drydedd sgwrs rydym wedi鈥檌 threfnu gyda鈥檙 Holocaust Educational Trust, ac rydym yn ddiolchgar dros ben am y bartneriaeth barhaus hon.鈥

Ychwanegodd yr Athro Peter Shapley, Pennaeth Ysgol Hanes, y Gyfraith a鈥檙 Gwyddorau Cymdeithas:
鈥淩ydym yn ddiolchgar iawn am y berthynas sydd wedi鈥檌 meithrin gyda鈥檙 Holocaust Educational Trust. Mae鈥檔 rhoi cyfleoedd gwerthfawr ac unigryw i鈥檔 myfyrwyr ymgysylltu ag hanes byw, myfyrio鈥檔 feirniadol ar anghyfiawnder cyfoes, ac ysbrydoli drwy leisiau fel Dr Kaposi. Dyma鈥檙 math o brofiad sy鈥檔 llunio ysgolheigion a dinasyddion fel ei gilydd.鈥
Roedd y digwyddiad hwn yn gam pellach yn ymrwymiad y Brifysgol i feithrin addysg sy鈥檔 pontio rhwng hanes a heriau cyfoes, gan arfogi myfyrwyr nid yn unig 芒 gwybodaeth, ond 芒鈥檙 empathi a鈥檙 gallu i gyfrannu at ddyfodol mwy cyfiawn.
