Taith Ieithoedd Lleiafrifedig ar Waith
Yr wythnos ddiwethaf, teithiodd Dr Rhian Hodges, Uwchddarlitydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithaol, Charlotte Amesbury a Beca Owen, myfyrwyr PhD Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas i Birfysgol Partium Christian, Oradea, Rwmania ar gyfer Rhaglen Cyfnewid Dwys, ‘Ieithoedd Lleiafrifiedig ar Waith’ wedi ei drefnu gan Erasmus + a grwp ymchwil UniNet.

Roedd hon yn wythnos wych o drafod, rhannu syniadau a dysgu mwy am ieithoedd lleiafrifiedig. Roedd myfyrwyr, darlithwyr ac athrawon yn cynrychioli’r ieithoedd canlynol wedi teithio i Oradea, Y Gymraeg, Ffriseg, Catalaneg, Y Ffinneg yn Sweden a Hwngareg yn Rwmania.

Cynhaliodd Dr Hodges weithdy ryngweithiol ar ‘Defnydd Iaith Cymunedol a Chynllunio Ieithyddol: Enghreifftiau o Gymru’ lle gofynnwyd i’r myfyrwyr ddod yn gynllunwyr ieithyddol cymunedol am ddiwrnod a chreu cynlluniau a phosteri er mwyn annog defnydd iaith o fewn eu cymunedau ieithyddol.
Cyflwynodd Charlotte Amesbury ar bwnc ei doethuriaeth sef Teithiau Iaith: Profiadau siaradwyr Cymraeg ifanc mewn ardaloedd dwysedd Cymraeg isel .
Cyflwynodd Beca Owen ar faes ei hymchwil ddoethurol hefyd sef, Deallusrwydd Artiffisial o fewn y system addysg Gymraeg a dwyieithog yng Nghymru. Cafwyd amser gwych yn Oradea a’r gobaith yw parhau i gydweithio a chroesawi’r criw draw i Fangor cyn hir!