吃瓜群众

Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol 吃瓜群众

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o鈥檔 rhaglenni Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yma ym Mhrifysgol 吃瓜群众. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd 芒 ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.

Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein t卯m ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym d卯m ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Gwyliwch ein fideo

Llongyfarchiadau mawr ar gael cynnig i astudio yma ym Mhrifysgol 吃瓜群众.

Rhian Tomos ydw i a dwi'n darlithydd mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn yr Ysgol Addysg yma ym Mangor.

Dwi'n edrych ymlaen at gael eich cwmni chi mewn darlithoedd i chi gael dysgu am y maes, a chael dod i nabod eich hun ag i ddatblygu eich cyflogadwyedd fel eich bod yn gallu mynd i weithio yn y maes plant a phobl ifanc yn llwyddiannus yn y dyfodol.

Felly dwi'n edrych ymlaen yn arw at gael eich cwmni chi a'ch cyfarfod chi yn fuan.

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ff么n symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Ymunwch 芒 Chyswllt Campws

Dewch i ymuno ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o'n cymuned myfyrwyr ym Mangor cyn cyrraedd hyd yn oed! Cofrestrwch i gael yr ap Cyswllt Campws lle gallwch ofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Edrychwch ar eich e-byst am eich rhif adnabod Prifysgol 吃瓜群众, byddwch ei angen wrth i chi gofrestru.

Cwestiynau Cyffredin

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf fel arfer bydd gennych 8-10 o oriau cyswllt, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Yn ystod weddill yr wythnos bydd disgwyliad arnoch chi i wneud hunain astudiaeth a threulio amser yn darllen, ymchwilio a pharatoi ar gyfer aseiniadau.

Oes, byddwch yn cael cyfle i fynd ar leoliad gwaith yn y flwyddyn gyntaf ac yr ail flwyddyn. Cewch hefyd gyfle i gwrdd ag arbenigwyr yn y maes a chlywed am eu profiadau.

Mae gennym dau gwrs yma ym Mhrifysgol 吃瓜群众, cwrs Cyfrwng Cymraeg a chwrs Cyfrwng Saesneg. Mae astudio drwy鈥檙 Gymraeg yn gallu rhoi mantais i chi os byddwch yn edrych am swydd yng Nghymru.

Mae gwobrau ariannol ar gael i chi pam fyddwch yn astudio o leiaf 40 credyd drwy'r Gymraeg gan gynnwys ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bwrsariaeth cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.

Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn edrych ar bob agwedd ar ddatblygiad plentyn, ei hawliau, caffael iaith, anghenion dysgu ychwanegol, i enwi ond ychydig. Bydd y radd yn eich paratoi i weithio gyda phlant mewn pob math o leoliadau, o'r blynyddoedd cynnar hyd at y llencyndod. Mae rhai o鈥檔 graddedigion yn mynd ymlaen i roi pwysau ar TAR i ddod yn athro Cynradd neu Uwchradd (yn amodol ar fodloni鈥檙 gofynion mynediad).

Na, mae pob asesiad yn waith cwrs.

Cwrdd 芒 rhai o'ch darlithwyr

Headshot of Arwyn Roberts

Arwyn Roberts

Ar ol graddio mewn Daearyddiaeth Dynol a mynd ymlaen i TAR cynradd, mae gweithio hefo plant wedi bod yn bwysig i mi, mae wastad yn ddiddorol, hwyl ac yn agoriad llygaid.

Ar 么l gweithio o fewn y maes Hawliau Plant a Chyfranogi am ran fawr o fy mywyd gweithio mae gwrando ar blant a phobl ifanc yn bwysig i mi.

Mae'r syniadau a sylwadau mae plant a phobl ifanc yn rhoi yn ein Huwchgynadleddau yn hynod o ddiddorol.

Roedd y cyfle i weithio ar astudiaeth Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒 Llais y Disgybl dros gyfnod Covid yn brofiad gwych a wnes i ddysgu llawer bod y ffordd mae ysgolion yn gwrando ar blant yn amrywio.

Cymerwch fantais o'r adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr, o gymorth astudio i chwaraeon sydd ar gael yma. Gwnewch y mwyaf o'ch amser yma!

Pam dewis Prifysgol 吃瓜群众?

Eich camau nesaf

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr

Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol 吃瓜群众, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.

Myfyrwyr yn siarad ac ymlacio yn Barlows, Pentref Myfyrwyr y Santes Fair

Gwneud ffrindiau cyn cyrraedd y campws

CampusConnect, ein ap ar gyfer deiliaid cynnig, yw'r ffordd orau i gysylltu 芒 myfyrwyr eraill sydd ar yr un cwrs 芒 chi ac yn aros yr un llety. Mae'n ffordd wych o wneud ffrindiau a chael cyngor am y Brifysgol cyn dod yma. Edrychwch ar eich e-byst am fanylion mewngofnodi.   

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Gwneud cais am lety

Rydym yn rhoi sicrwydd o ystafell mewn llety Prifysgol i ymgeiswyr o'r DU/Iwerddon am flwyddyn gyntaf o'u gradd israddedig. Rhaid eich bod yn dal 吃瓜群众 fel eich dewis Cadarn, 芒'ch bod yn mynychu cwrs ar y campws ym Mangor, yn cychwyn y cwrs ym mis Medi ac yn gwneud cais cyn y dyddiad cau. Byddem yn eich e-bostio pan fydd hi'n amser gwneud cais a byddwch yn gallu dewis eich ystafell trwy ein system archebu.

Darganfod EICH ystafell berffaith

Myfyrwyr yn siarad tu allan i'r brifsysgol

Mwy o wybodaeth i Ymgeiswyr

Ewch i'r tudalennau Gwybodaeth i Ymgeiswyr sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth rydych angen wybod am eich cais a sut i baratoi ar gyfer prifysgol.
 

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd