Mahjong a Chof: Y Straeon y tu ôl i’r Teils!
Camwch i fyd lle mae chwarae'n cwrdd â thraddodiad, ac mae gan bob teilsen stori i'w hadrodd. Rydym yn eich gwahodd i’r sesiwn unigryw hon i archwilio treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Mahjong, sef un o gemau mwyaf eiconig a hoff Tsieina.
Dan arweiniad gwych Qiyue Zhang, bydd y sesiwn yn cynnig y cymysgedd perffaith o chwarae, dysgu a chwerthin. P’un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu eisoes yn gyfarwydd â rhai o’r gemau, fe’ch gwahoddir yn gynnes i ddod draw i gwrdd â phobl newydd ac i fwynhau’r her gyfeillgar.
ðŸ¶Ä„ Dysgwch sut mae gemau megis Mahjong yn cael eu plethu i ddiwylliant ac iaith Tsieina
ðŸ¶Ä„ Dysgwch y rheolau trwy chwarae – nid oes angen profiad arnoch!
ðŸ¶Ä„ Ymgyfarwyddwch ag ymadroddion hwyliog ac awgrymiadau diwylliannol ar hyd y ffordd
Dewch ar eich pen eich hun neu gyda ffrind – bydd y sesiwn yn sicr o fod yn gyfle ichi gael hwyl ac i roi cynnig ar rywbeth newydd.