Hyfforddi Heb Gel: Chwalu mythau a hyfforddi’n gallach gyda Gwyddor Caffael Sgiliau
Dysgwch am Wyddoniaeth Iechyd a Pherfformiad Dynol: Cyfres Gweminar Gwyddorau Chwaraeon
Ymunwch â ni ar gyfer gweminar ysgogol sy'n chwalu camsyniadau cyffredin ym maes hyfforddiant ac yn cyflwyno mewnwelediadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i wella eich ymarfer. Darganfyddwch sut y gall cymhwyso darganfyddiadau diweddaraf gwyddor caffael sgiliau drawsnewid y ffordd rydych chi’n hybu dysgu, datblygu athletwyr, a gwella perfformiad. P’un a ydych yn dyheu am fod yn hyfforddwr, yn hyfforddwr ymarferol, yn addysgwr neu’n weithiwr proffesiynol ym maes chwaraeon, bydd y sesiwn hon yn rhoi’r offer ymarferol i chi hyfforddi’n gallach, nid yn galetach. Peidiwch â cholli’r cyfle i herio credoau hen ffasiwn a mireinio’ch dull gyda gwyddoniaeth flaengar.
Bydd y gweminar yn cynnwys taith sydyn drwy’r prif bynciau canlynol:
- Gwella’ch cyfarwyddiadau
- Darparu adborth effeithiol
- Strwythuro’r amgylchedd ymarfer
- Cyfnodoli caffael sgiliau
Peidiwch â cholli allan – ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn llawn egni hon!
Dr Vicky Gottwald
Mae Dr Vicky Gottwald BSc. PGCE. PGDip. PhD. SFHEA yn ymchwilydd ym maes caffael sgiliau ac yn aelod o Sefydliad Seicoleg ar gyfer Perfformiad Elitaidd (IPEP) ym Mhrifysgol ³Ô¹ÏȺÖÚ. Mae ei diddordebau ymchwil yn cyd-fynd yn dda â’i hangerdd dros hyfforddi chwaraeon, ac mae ganddi ddiddordeb penodol mewn cyfarwyddiadau hyfforddi. Yn benodol, mae ganddi ddiddordeb yn y ffordd y gall cyfarwyddiadau llafar gyfeirio sylw athletwr ac, o ganlyniad, naill ai wella neu rwystro dysgu symudol a pherfformiad.
Yn yr un modd, mae gan Vicky ddiddordeb mewn adnabod a datblygu dawn; yn enwedig o ran gwella’r amgylchedd ymarfer ar gyfer perfformiad gorau posibl.
Fel hyfforddwr pêl-fasged Lefel 4 UKCC, mae gan Vicky brofiad helaeth o gymhwyso cysyniadau damcaniaethol sy'n gysylltiedig â chaffael sgiliau yn ymarferol, ac mae wedi hyfforddi ar draws amrywiol gamau o Raglenni Tîm Cenedlaethol Pêl-fasged Cymru.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg.
Gellir gweld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Drwy gyflwyno’r ffurflen gofrestru hon, rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Gallwch gysylltu â ni unrhyw bryd i dynnu eich caniatâd yn ôl neu i newid eich dewisiadau caniatâd.