Draig Beats
Gŵyl undydd sy’n addas i deuluoedd, i adeiladu pontydd rhwng y Brifysgol a Chymunedau lleol ac i helpu Dr Sophie.
Gŵyl undydd sy’n addas i deuluoedd, i adeiladu pontydd rhwng y Brifysgol a Chymunedau lleol ac i helpu Dr Sophie.
Bydd Draig Beats yn dychwelyd ar ddydd Sadwrn y 7fed o Fehefin 2025 i Ardd Fotaneg Treborth!
Mae’n ddigwyddiad codi arian sy’n gyfeillgar i deuluoedd, ac mae’n parhau i adeiladu pontydd rhwng y Brifysgol a chymunedau lleol. Bydd digonedd o gerddoriaeth fyw, sgyrsiau, gweithdai, bwyd a diod, yn ogystal ag arddangos mentrau lleol a llawer o weithgareddau i gadw'r plant yn brysur!
Mae’r ŵyl yn cael ei rhedeg gan grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr sy’n ceisio codi arian i helpu i gefnogi ein ffrind a’n cydweithiwr ysbrydoledig Dr Sophie Williams, cyn-ddarlithydd mewn cadwraeth planhigion ym Mhrifysgol ³Ô¹ÏȺÖÚ. Yn anffodus, mae hi'n dal i fyw mewn cartref gofal yn dilyn blynyddoedd o arosiadau ar ofal dwys ar ôl dal Enseffalitis Japaneaidd. Rydym yn codi arian i gefnogi ei hanghenion gofal arbenigol a galluogi teithiau i ymweld â'i ffrindiau a'i chydweithwyr.
Ymunwch â ni am ddiwrnod allan gwych a helpwch ni i godi cymaint o arian â phosib.