Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae rhaglen PhD 吃瓜群众 mewn Dwyieithrwydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fanteisio ar gefnogaeth a datblygu eu sgiliau i ymgymryd ag ymchwil annibynnol ar lefel doethuriaeth i faterion ac agweddau yn ymwneud ag iaith, addysg, a gwybyddiaeth ym meysydd dwyieithrwydd ac amlieithrwydd.
Mae ein staff academaidd yn darparu arbenigedd ac yn goruchwylio traethodau hir PhD mewn ystod eang o ddisgyblaethau ym meysydd dwyieithrwydd ac amlieithrwydd. Mae hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) brojectau sy鈥檔 defnyddio methodolegau ansoddol, meintiol, arbrofol neu ethnograffig yn y meysydd canlynol:
- seineg a ffonoleg
- morffogystrawen
- semanteg a phragmateg
- ieithyddiaeth gymdeithasol
- seicoieithyddiaeth
- caffael iaith mewn plant
- caffael iaith gyntaf ac ail iaith
- datblygiad iaith
- anhwylderau iaith
- ieithyddiaeth corpws
- iaith a chyfathrebu
- amrywiad, defnydd a newid iaith
- ieithoedd dadleuol eu statws
- iaith dymhorol a natur iaith ffigurol
- technolegau iaith / prosesu iaith naturiol
- ieithyddiaeth Gymraeg
Gall myfyrwyr ar ein cwrs PhD Dwyieithrwydd ddefnyddio cyfleusterau dysgu o鈥檙 radd flaenaf sy鈥檔 cynnwys:
- Stiwdio sain/recordio a labordy lleferydd o safon broffesiynol (gydag offer recordio Yamaha, Alesis a R脴DE)
- Labordy tracio llygaid (gyda thraciwr llygaid Tobii Pro X2-60)
- Labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) (gyda pheiriant actiCHamp Plus ERP)
- A meddalwedd ac adnoddau ieithyddiaeth corpws pwrpasol.
Mae ein staff hefyd yn arbenigwyr yn y meysydd canlynol a gallant gynnig cefnogaeth ynddynt:
- Meddalwedd ystadegol megis: SPSS, R-Statistics ac Excel.
- Meddalwedd seicoleg arbrofol fel E-Prime, GORILLA Experiment Builder, Open Sesame a Webexp.
- Meddalwedd dadansoddi acwstig a seinegol fel: Audacity, Praat, a SIL Speech Analyzer
- Profion seicometrig / iaith safonol (e.e. EVT, BPVS, NARA, WISC, K-BIT, TROG, CELF)
- Amrywiaeth eang o feddalwedd corpws a choncordans arbenigol gan gynnwys CHILDES a CLAN
Ym Mangor byddwch yn rhan o gymuned ymchwil fywiog ac arloesol a gefnogir gan wahanol ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys sgyrsiau unigol, seminarau a gweithdai anffurfiol a chynadleddau mawr. Mae llawer o'r rhain yn agored nid yn unig i staff academaidd, ond hefyd i fyfyrwyr ac i'r cyhoedd.
Hyd y Cwrs
PhD: 3 blynedd yn llawn-amser, 5 mlynedd yn rhan-amser; MPhil: 2 flynedd yn llawn-amser, 3 blynedd yn rhan-amser.
Gofynion Mynediad
Mae鈥檔 bosib ymuno 芒'r rhaglen PhD ar 么l cwblhau gradd Meistr mewn Ieithyddiaeth neu bwnc cysylltiedig ym Mangor neu mewn sefydliad arall. Rhaid i'r ymgeiswyr hynny nad yw'r Saesneg yn iaith frodorol iddynt basio'r prawf Saesneg IELTS gyda sg么r o 6.0 ym mhob un o'r pedair elfen. Gall myfyrwyr sydd 芒 sg么r gyffredinol o 5.5 ar yr IELTS ddilyn cwrs cyn-sesiwn dros yr haf yng Nghanolfan Iaith Saesneg y Brifysgol i Fyfyrwyr Tramor (ELCOS).
Gyrfaoedd
Gradd ymchwil yw hon, sy'n eich paratoi at yrfa academaidd mewn Dwyieithrwydd neu at waith arall sy'n gofyn am unigolion cymwys iawn mewn meysydd cysylltiedig. Bydd y sgiliau dadansoddi ac ymchwilio manwl a ddysgwch yn ystod y radd hon yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy mewn meysydd fel cyfathrebu, addysgu, cyhoeddi, ymchwil etc.