Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Ydych chi'n gweithio mewn amgylchedd dwys iawn? Mae'r rhaglen chwe wythnos Hunanofal Ystyriol wedi'i chynllunio i'ch helpu i ymdopi 芒 gofynion a heriau unigryw gweithle dwys iawn gyda mwy o sefydlogrwydd, effeithiolrwydd a charedigrwydd. Bydd cyfranogwyr yn dysgu arferion ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi syml ond pwerus sy'n gwella hunan-reoleiddio ac yn meithrin hunan-dosturi, gan eich galluogi i fod yn fwy tosturiol tuag atoch chi'ch hun ac eraill.
Mae'r rhaglen yn dyfnhau dealltwriaeth cyfranogwyr o ffisioleg straen, yn eich helpu i adnabod patrymau meddwl sy'n cynnal ac yn cynyddu straen, ac yn cyflwyno ffyrdd medrus, tosturiol o ymateb i bwysau yn y gweithle. Trwy atal chwythu plwc, gall y cwrs hwn fod yn sylfaen ar gyfer hunanofal gydol oes. Mae natur strwythuredig y cwrs, ynghyd ag arweiniad athrawes/athro profiadol a chefnogaeth cyd-gyfranogwyr, yn creu amgylchedd amhrisiadwy ar gyfer dysgu, magu hyder, a datblygu arferion sy鈥檔 gwella lles.
Mae'r rhaglen chwe wythnos Hunanofal Ystyriol wedi'i chynllunio'n benodol i鈥檙 rhai sy'n gweithio mewn amgylcheddau dwys iawn, dan gyfyngiadau amser. Mae'n adeiladu ymwybyddiaeth ac yn cryfhau'r gallu i adnabod straen ynddoch chi鈥檆h hun, mewn eraill, ac yn systemau'r gweithle.
Mae'r cwrs yn cyflwyno modelau damcaniaethol allweddol, gan gynnwys ffisioleg straen a seicoleg, therapi gwybyddol wedi鈥檌 seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar, a hyfforddiant meddwl tosturiol, gan hefyd archwilio'r rhesymau pam y gallai'r rhai mewn proffesiynau gofal brofi chwythu plwc.
Bydd cyfranogwyr yn ymgysylltu ag arferion sy'n gwella ffocws, sefydlogrwydd a hunandosturi, gan eu helpu i ailgysylltu 芒'r hyn sydd bwysicaf yn eu gwaith. Mae'r egni newydd hwn nid yn unig yn cefnogi lles personol ond hefyd yn cyfrannu at ddiwylliant gweithle iachach a mwy cynaliadwy.
I bwy mae鈥檙 cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn amgylcheddau dwys iawn, gan gynnwys gofal iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, lleoliadau cyfreithiol, a sefydliadau trydydd sector. Os yw eich swydd yn cynnwys sefyllfaoedd pwysau uchel a gofynion emosiynol, bydd y rhaglen hon yn dysgu ffyrdd ymarferol i chi i wella gwytnwch a lles.
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Mae'r Rhaglen Hunanofal Ystyriol wedi'i chynllunio'n benodol i gefnogi gweithwyr proffesiynol mewn gweithleoedd heriol. Trwy'r cwrs hwn, byddwch yn:
- Cael dealltwriaeth ddyfnach o straen a chwythu plwc a sut maent yn effeithio ar les.
- Datblygu sgiliau ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi i ymateb yn fwy effeithiol i heriau yn y gweithle.
- Dysgu technegau ymarferol i wella ffocws, sefydlogrwydd emosiynol, a hunan-dosturi.
- Ailgysylltu 芒'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yn eich gwaith, gan feithrin egni a chymhelliant o鈥檙 newydd.
- Symud y tu hwnt i ymdopi yn unig, ac yn hytrach, meithrin agwedd iachach a mwy cynaliadwy at eich bywyd proffesiynol.
Nid yw'r cwrs hwn yn ymwneud 芒 rheoli straen yn unig - mae'n ymwneud 芒 ffynnu yn eich swydd a chael effaith gadarnhaol ar eich gweithle.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Mae鈥檙 cwrs byr hwn yn rhedeg dros 6 wythnos, ac yn cynnwys sesiynau ar-lein wythnosol sy鈥檔 para 75 munud.
Tiwtoriau
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno gan un o鈥檔 tiwtoriaid ymwybyddiaeth ofalgar arbenigol: Sarah Millband, Christina Shennan, neu Phoebe Roman. Mae pob un o鈥檔 tiwtoriaid yn ymarferwyr ymwybyddiaeth ofalgar hyfforddedig a phrofiadol iawn, gydag arbenigedd helaeth mewn cefnogi unigolion sy鈥檔 gweithio mewn amgylcheddau dwys iawn.
Mae Sarah Millband yn seicotherapydd, yn athrawes ymwybyddiaeth ofalgar, yn hyfforddwr ac yn oruchwyliwr. Mae鈥檔 addysgu ymwybyddiaeth ofalgar yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gleifion, myfyrwyr meddygaeth a staff clinigol ac yn y sector gwirfoddol i staff a gwirfoddolwyr, i ofalwyr a thrwy bartneriaethau presgripsiynu cymdeithasol. Mae Sarah yn byw yn Ne Cymru ac yn dysgu鈥檙 Rhaglen Hunanofal Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol i鈥檙 Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol 吃瓜群众.
Mae Christina yn diwtor ar y radd Meistr mewn Dulliau Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar yn y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar (CMRP), Prifysgol 吃瓜群众 ac mae鈥檔 dysgu Rhaglen Hunanofal Ymwybyddiaeth Ofalgar i鈥檙 Brifysgol. Mae'n gweithio fel seicotherapydd ac athrawes ymwybyddiaeth ofalgar mewn Gwasanaethau Seicolegol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ym maes oncoleg. Mae gan Christina brofiad helaeth o gefnogi staff a gofalwyr, yn enwedig ym maes oncoleg, ac mae鈥檔 arwain gweithdai sy鈥檔 seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar i weithwyr iechyd proffesiynol.
Mae Phoebe wedi gweithio yng ngwasanaethau gofal iechyd meddwl eilaidd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ers 1989. Mae鈥檔 arwain y modiwl Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Therapi Ymddygiad Dialectig ym Mhrifysgol 吃瓜群众 ac mae鈥檔 athrawes ac yn oruchwyliwr cyrsiau sy鈥檔 seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar. Mae ganddi brofiad helaeth o gefnogi staff yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan gynnwys trwy raglenni ymwybyddiaeth ofalgar.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae鈥檙 cwrs byr hwn yn cyflwyno cysyniadau allweddol o ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi, gan eich helpu i ddatblygu strategaethau ymarferol i reoli straen yn fwy effeithiol. Byddwch yn archwilio:
- Gwyddor straen: deall sut mae straen yn effeithio ar y corff a'r meddwl.
- Patrymau meddwl sy'n cyfrannu at straen a sut i'w hadnabod a chamu'n 么l oddi wrthynt.
- Technegau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi i wella lles personol.
- Strategaethau i feithrin profiad gweithle iachach.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych becyn cymorth o ddulliau ymarferol i wella gwytnwch, ffocws, a lles cyffredinol yn eich bywyd proffesiynol a phersonol.
Beth mae dysgwyr yn ddweud am y cwrs?
鈥渕ae'n wych sut dwi'n sylwi cymaint mwy ac yn gallu arafu a dewis fy ymateb i bethau鈥
鈥淕wnaeth i mi feddwl yn fwy cadarnhaol amdanaf fy hun a bywyd yn gyffredinol鈥
鈥淔e helpodd fi i ailasesu fy llwyth gwaith a chanolbwyntio ar bethau y gallaf eu rheoli.鈥
鈥淩oedd cael lle diogel ac ymroddedig i rannu fy meddyliau a鈥檓 teimladau a chlywed gan eraill yn ddylanwadol ac wedi helpu i normaleiddio a rhesymoli rhai o鈥檙 pethau sy鈥檔 achosi straen i mi.鈥
Cost y Cwrs
拢200 (pris yn ddilys ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26)
Gwneud Cais
Nid oes dyddiad penodol ar gyfer y cwrs hwn eto. Cofrestrwch eich diddordeb trwy gwblhau鈥檙 ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad yn fuan.