Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Cod modiwl: NHS-4396
Caiff y cwrs byr, lefel 7 rhan-amser hwn ei gyflwyno ar ein campws ym Mangor a Wrecsam gyda rhywfaint o gynnwys ar gael ar-lein (dull dysgu cyfunol).
Gellir astudio'r cwrs byr hwn ar ei ben ei hun neu gellir ei astudio fel modiwl ar yr MSc Astudiaethau Bydwreigiaeth.
I bwy mae鈥檙 cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio'n benodol ar gyfer nyrsys, bydwragedd a nyrsys iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol (SCPH) sydd wedi'u cofrestru'n NMC.
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Bydd y modiwl hwn yn galluogi ymarferwyr cymwys i ennill y sgiliau a'r arbenigedd, i gynnal Archwiliad Corfforol y Newydd-anedig a gynigir ar hyn o bryd i bob baban newydd-anedig yn y DU, o fewn 72 awr ar 么l geni ac eto yn 6-8 wythnos oed, yn unol 芒'r Rhaglen Sgrinio Genedlaethol.
Bydd y modiwl yn archwilio'r newidiadau strategol o fewn gofal iechyd o ran darparu archwiliad arferol o fabanod newydd-anedig.
Bydd y modiwl yn galluogi ymarferwyr i berfformio Archwiliad corfforol cynhwysfawr ac asesiad ymddygiadol o fabanod newydd-anedig, gan weithio o fewn t卯m amlddisgyblaethol i wneud atgyfeiriadau priodol at glinigwyr penodol.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Bydd y cwrs byr hwn yn cynnwys 6 diwrnod llawn o addysgu (naill ai yn y cnawd neu ar-lein) ac un diwrnod ychwanegol a fydd yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol/efelychu.
Y dyddiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 yw:
- 2 Hydref 2024
- 9 Hydref 2024
- 16 Hydref 2024
- 24 Hydref 2024
- 6 Tachwedd 2024
- 13 Tachwedd 2024
- 4 Rhagfyr 2024 (Skills Day)
Mae hefyd yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau 10 arholiad ac arddangos cymwyseddau clinigol o dan oruchwyliaeth uniongyrchol goruchwyliwr enwebedig o'u hymddiriedolaeth ysbyty leol, sy'n gymwysedig yn yr Archwiliadau Corfforol ar gyfer Babanod a Babanod Newydd-anedig (NIPE) e.e. Bydwraig sy'n Ymarfer, Cofrestrydd Babanod Newydd-anedig, Uwch Ymarferydd Babanod Newydd-anedig.
Bydd y goruchwyliwr yn arwain ac yn cefnogi'r myfyriwr trwy agweddau clinigol y modiwl.
Bydd asesiadau ar y cwrs byr hwn yn cynnwys:
- Traethawd (3,500 o eiriau)
- 10 archwiliad systematig o'r baban newydd-anedig mewn ymarfer clinigol
Tiwtor
Lauren Irving

Mae Lauren wedi bod yn fydwraig gymwysedig ers 2011 ac wedi gweithio鈥檔 glinigol am 10 mlynedd cyn dod i Brifysgol 吃瓜群众. Roedd hi鈥檔 arbenigo mewn bydwreigiaeth gymunedol, parhad gofal, genedigaethau yn y cartref, addysg rhieni, bwydo ar y fron ac Archwiliadau Corfforol ar gyfer Babanod a Babanod Newydd-anedig (NIPE).
Mae Lauren yn aelod o'r t卯m darlithio bydwreigiaeth ac yn arwain Blwyddyn 2 ar y rhaglen Bydwreigiaeth israddedig. Hi hefyd yw鈥檙 arweinydd ar gyfer Bwydo ar y Fron, a bu鈥檔 cynorthwyo Prifysgol 吃瓜群众 i gyflawni ei hachrediad aur Menter Cyfeillgar i Fabanod (BFI) yn 2022 鈥 yr unig Brifysgol yng Nghymru ag achrediad Aur. Mae Lauren yn addysgu'r modiwl NIPE ar lefelau israddedig ac 么l-radd.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Byddwn yn ymdrin 芒鈥檙 meysydd pwnc canlynol fel rhan o鈥檙 cwrs:
- Anatomi/datblygiad arferol y ffetws a ffisioleg y 7 system
- Newidiadau yn y cyfnod newydd-anedig Morffoleg arferol y baban newydd-anedig
- Datblygiad arferol y baban
- Archwiliad clinigol: adnabod unrhyw beth sy鈥檔 annormal
- Adnabod a rheoli annormaleddau cynhenid
- Cyfathrebu
- Systemau atgyfeirio a chanllawiau lleol
- Agwedd gyfannol at ofalu am y baban newydd-anedig a'r teulu
- Materion proffesiynol, moesegol a chyfreithiol
Beth fydd y cyfranogwyr yn cael allan o'r cwrs?
Erbyn diwedd y cwrs byr, bydd dysgwyr yn gallu:
- Adfyfyrio鈥檔 feirniadol ar effeithiau iechyd a chlefydau鈥檙 fam er mwyn deall yn llawn y goblygiadau ar y ffetws sy鈥檔 datblygu a/neu鈥檙 baban newydd-anedig.
- Adnabod, trwy gynnal archwiliad corfforol, yr hyn sy鈥檔 normal i fabanod newydd-anedig a anwyd ar 么l cyfnod llawn o feichiogrwydd gan gyfeirio at y newidiadau ffisiolegol sy鈥檔 gysylltiedig 芒 bywyd y tu allan i'r groth.
- Cyfathrebu鈥檔 effeithiol gyda rhieni ac aelodau o'r t卯m aml-broffesiwn.
- Gwerthuso鈥檔 feirniadol y dimensiynau proffesiynol, cyfreithiol a moesegol wrth archwilio ac asesu baban newydd-anedig.
Cost y Cwrs
- Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a bcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i rai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch 芒'r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
- Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n ymwneud 芒 cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid 脭l-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Bydd ymgeiswyr angen gradd israddedig o 2:2 neu uwch, a rhaid iddynt fodloni'r meini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn:
-
Unrhyw un sy鈥檔 gofrestredig gyda HCPC, GPhC neu鈥檙 NMC gan gynnwys bydwragedd neu Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPH).
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar 么l creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio 脭l-raddedig a Addysgir'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Archwilio鈥檙 baban newydd-anedig : y cod yw NHS: 4396. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster 么l-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch 鈥榠e鈥 * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o鈥檙 cyllid. Os hoffech gadarnhau 鈥榠e鈥 i鈥檙 cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i鈥檞 uwchlwytho, gallwch uwchlwytho鈥檆h ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol