Lle mae Lliw yn Cwrdd â'r Cymeriad: Celfyddyd Masgiau Opera Tsieineaidd!
Ydych chi erioed wedi pendroni beth yw gwir ystyr yr holl liwiau llachar ac wynebau dramatig sydd i’w gweld mewn Opera Tsieineaidd? Dewch i ddysgu mwy yn y sesiwn flasu hamddenol ac ymarferol hon dan arweiniad gwych Yipeng Yao!
Byddwn yn dechrau gyda chipolwg ar fyd hudolus Opera Tsieineaidd – yn llawn symudiadau, cerddoriaeth a chwedlau bythol. Byddwch yn cael gweld sut mae pob lliw sy’n cael ei baentio ar fwgwd opera’n adrodd stori – o arwyr dewr i ddihirod cyfrwys – cyn cael cyfle i roi cynnig ar baentio'ch mwgwd eich hun i fynd adref gyda chi.
🎠Dim pwysau, does dim angen profiad arnoch – dim ond cwpl o oriau o greadigrwydd, lliw a darganfyddiad diwylliannol.
Dewch ar eich pen eich hun neu gyda ffrind – mae croeso i bawb!